Ddechrau’r mis, cynhaliwyd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Caiff ei gynnal yn flynyddol ar yr 8fed o Fawrth ac mae’n gyfle i ymfalchïo mewn llwyddiannau menywod ledled y byd, yn ogystal ag ysbrydoli menywod i wthio’u hunain mewn amrywiol feysydd. Thema’r diwrnod eleni oedd ‘Cyflymu Gweithredu’. Er mwyn dathlu, hoffwn adlewyrchu ar rai o lwyddiannau menywod Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mewn meysydd yr oedd menywod unwaith yn cael eu hymyleiddio neu eu heithrio’n llwyr ohonynt.

Prif Weinidog Benywaidd Cyntaf Cymru

Ym maes gwleidyddiaeth, daeth Eluned Morgan yn Brif Weinidog benywaidd cyntaf ar Gymru yn Awst 2024. Wrth dderbyn ei rôl newydd, dywedodd Eluned Morgan, “Mae’n anrhydedd mwyaf fy mywyd i sefyll o’ch blaenau chi fel y fenyw gyntaf i ddod yn Brif Weinidog Cymru. Fel Prif Weinidog, dw i’n addo hyrwyddo lleisiau a phrofiadau sy’n rhy aml wedi cael eu gwthio i’r cyrion a’u tawelu”.

Yn y gorffennol roedd gwleidyddiaeth yn faes oedd yn eithrio menywod yn llwyr. Yn wir, nid oedd gan fenywod yr hawl i bleidleisio tan 1918, a ni wnaethant dderbyn hawliau cyfartal â dynion o ran pleidleisio tan 1928. Rhaid cydnabod y datblygiad sylweddol mewn gwelededd a chyfraniad menywod yng ngwleidyddiaeth ers y dyddiau cynnar hynny, a waeth beth yw eich barn wleidyddol, mae’r ffaith fod gennym fenyw yn Brif Weinidog ar Gymru am y tro cyntaf yn garreg filltir enfawr yn y maes dylanwadol hwn.

Tîm y menywod yn cyrraedd yr Ewros

Ym myd chwaraeon, bydd tîm pêl-droed menywod Cymru yn cystadlu yn yr Ewros am y tro cyntaf eleni. Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd Jack Sargeant, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru, “Bydd hon yn foment hanesyddol wrth i’n menywod gymryd rhan yn eu twrnamaint mawr cyntaf, un o 16 o dimau gorau Ewrop”. Ychwanegodd fod hwn “yn gyfle cadarnhaol iawn i dynnu sylw at y momentwm hwn o amgylch y gêm i ferched a menywod yng Nghymru, ac yn gatalydd i annog rhagor o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon”.

Yn ddiweddar hefyd, mae cynnydd wedi bod mewn cyfranogiad, dilynwyr ac ariannu i gêm y menywod, yn sgíl y strategaeth “Ein Cymru: Amdani Hi”. Cynllun chwe blynedd ydyw a lansiwyd gan Gymdeithas Bêl Droed Cymru yn 2021, sy’n anelu at drawsnewid tirwedd y gêm fenywaidd yng Nghymru. Yn sicr mae’r twf sylweddol hwn a llwyddiant ysgubol tîm y menywod yn ysbrydoliaeth, gan brofi ein bod yn torri tir newydd yn y maes.

#CyflymuGweithredu

Mae’r llwyddiannau hyn yn dystiolaeth gadarn o’r cynnydd mewn gwelededd menywod mewn gwahanol feysydd. Mae diwrnod rhyngwladol y menywod yn gyfle euraidd i ni adlewyrchu a dathlu’r llwyddiannau hyn, ond y mae hefyd yn gyfle i ni ystyried sut gallwn ni barhau i ddatblygu cyfleoedd i fenywod wrth symud ymlaen ac anelu tuag at gydraddoldeb llwyr.

Felly i fenywod ym mhob man, cymerwch y llwyddiannau hyn fel ysbrydoliaeth i chi er mwyn #CyflymuGweithredu.