Ar ddechrau’r mis hwn, gwnaeth miloedd o blant ar hyd a lled Cymru wisgo fel eu hoff gymeriad ffuglennol, er mwyn dathlu Diwrnod y Llyfr. Rwy’n siŵr fod gan bob un ohonoch chi atgofion melyn iawn o ddathlu’r diwrnod cyffrous hwn pan oeddech chi’n iau, ond faint ohonoch chi sy’n parhau i ddarllen hyd heddiw?
Gall y weithred o ddarllen leihau straen, gwella cwsg, a lleihau’r risg o ddatblygu demensia. Felly, dyma gynnig rhai argymhellion darllen i’ch cadw chi’n brysur dros yr wythnosau nesaf. Mwynhewch!
Sut i Ddofi Corryn Mari George
‘Sut i Ddofi Corryn’ gan Mari George yw enillydd cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2024.
Yn y nofel, cyflwyna Mari George stori menyw o’r enw Muriel, wrth iddi deithio o Gymru i Guatemala. Mae hi’n chwilio am gynhwysyn a allai wella ei gwr, Ken, sy’n marw o ganser. Er hyn, yn ystod ei thaith lythrennol, aiff Muriel hefyd ar daith bersonol, taith sy’n gorfodi iddi wynebu rhai o’i hofnau mwyaf...
“Mae’r nofel brydferth, gynnil hon yn un sydd am aros yng nghilfachau y cof ” – Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru.
Oedolyn (ish)
Hunangofiant creadigol Melanie Owen yw Oedolyn (ish!), sydd wedi’i gyflwyno ar ffurf casgliad o wersi mai hi wedi’u dysgu cyn troi’n dri deg. Yn yr hunangofiant ysgafn hwn, cawn ddysgu am sut mae’r gomedïwraig wedi cyrraedd lle mae hi heddiw, yn ogystal â’r hyn sydd ganddi i weithio arno er mwyn sicrhau datblygiad a hapusrwydd pellach.
“Mi fyddwn i, yn bendant, yn argymell y llyfr hwn i unrhyw un sy’n mwynhau chwerthin (a phwy sydd ddim yn mwynhau chwerthin???)” – Ant Evans.
Gwen & Art are not in Love
Chwilio am lyfr Saesneg yn hytrach na llyfr Cymraeg? Beth am roi cynnig i ‘Gwen and Art Are Not in Love’- enillydd Gwobr Llyfr Oedolion Ifanc 2024?
Mae’r stori hon wedi’i gosod yn y cyfnod canoloesol, ac mae’n canolbwyntio’n benodol ar ddau unigolyn o’r bonedd – Arthur, un o ddisgynyddion y Brenin Arthur, a Gwendoline, tywysoges Lloegr. Er bod eu teuluoedd wedi trefnu i’r ddau briodi yn y dyfodol, gall Gwen ac Art eu hunain ddim meddwl am unrhyw beth gwaeth– maent yn elynion llwyr. Ond tybed a fydd eu perthynas yn newid?
“Exactly what I needed right now- a delightful, heartwarming, hilarious historical romp, overflowing with queer panic and terrible jokes. I loved it.” – Alice Oseman, awdur ‘Heartstopper.’

