Does dim angen dweud wrth ddarllenwyr y Gair Rhydd pa mor wahanol y mae’r Brifysgol yn edrych ac yn teimlo wedi’r newidiadau diweddar i strwythur y Brifysgol a’i hysgolion. Mae’r newidiadau wedi dod i rym yn dilyn cyfres o ddatrysiadau i mewn ymgais i wneud toriadau ariannol i goffrau’r Brifysgol.
Un ysgol sydd wedi cael ei diddymu, a’i hisraddio fel Adran o fewn Ysgol ehangach yw Ysgol y Gymraeg, sydd bellach yn cael ei galw’n Adran y Gymraeg. Mae’r Adran hon yn gyfadran yn ysgol newydd y Dyniaethau Byd-Eang. Mae sawl ysgol wedi dod ynghyd i ffurfio’r ysgol hon ar ei newydd wedd.
Mae’r newidiadau ymarferol i’w gweld yn ogystal â’r rhai strwythurol. Fel sawl ysgol arall, bellach, mae Swyddfa Ysgol y Gymraeg wedi’i droi’n ystafell addysgu yn Adeilad John Percival. I lawer, chwith yw gweld nad oes canolbwynt gan yr ‘Ysgol’ mwyach, er gwaethaf Hyb y Dyniaethau Byd-Eang ym mynedfa John Percival.
Un fyfyrwraig sydd wedi bod yn llygad-dyst i’r newidiadau gweledol a strwythurol yma yw Megan Bill.
“Yn fwy nag erioed, rwy’n gwerthfawrogi ymdrechion staff y Gymraeg i gynnal ymdeimlad o gymuned o fewn yr adran, serch y newidiadau.
Mae hyn wedi bod yn ffactor allweddol o’m mhrofiad yn y brifysgol hyd yma."
"Byddai colli hynny wedi bod yn drueni mawr” meddai.
Un arall sydd eisoes wedi graddio, a hynny dan faner Ysgol y Gymraeg, ond sydd yn astudio cwrs meistr yn Adran y Gymraeg bellach yw Myfanwy Lewis.
I Myfanwy, does dim eglurder i fyfyrwyr MA ac astudiaethau ôl-raddedig ar ystafell neu leoliad penodol ar eu cyfer, meddai.
“Roedd gan Ysgol y Gymraeg un ystafell penodedig ar eu cyfer, does dim un bellach”.
Dywed, nad oes “sicrwydd na chyfathrebu am fan astudio clir, o ran yr ysgol newydd hon”.
Mae’n bendant yn teimlo bod yr ymdeimlad o agosatrwydd wedi pylu yno.
“Mae pawb ar led llawr yn fwy”, meddai.
Ond wedi dweud hynny, mae hi hefyd yn cydnabod bod elfennau i’w cymeradwyo, er gwaethaf y glec i’r Adran.
Cred Myfanwy bod mwy o gyfleoedd i gyd-weithio ar draws yr ysgol fawr gyfan, a hynny rhwng adrannau eraill oddi fewn i’r ysgol newydd. Daw hyn â chyfleoedd amgen i’r myfyrwyr yn y dyfodol.
Mae Myfanwy yn diolch, fod y Gymraeg fel pwnc wedi perchnogi Adran gyfan i’w hun.
“Dydy hynny ddim yn wir am y Saesneg fel pwnc” meddai, sydd yn gorfod rhannu adran hyd yn oed gyda phynciau eraill. Cyfri ei bendithion mae Myfanwy o ran hynny; fod gan Adran y Gymraeg, ei enw ei hun, serch ei bod hi nawr yn rhan o Ysgol y Dyniaethau Byd-Eang.
Mae’r Gymraeg felly’n dal i gael cydnabyddiaeth ar draws y Brifysgol.
Fyddai’r sefyllfa’n waeth petai’n rhaid i’r Gymraeg rannu adran, fel y mae’r Saesneg, a ninnau yn fyfyrwyr ym mhrifysgol mwyaf Cymru, meddai.
Noda, fod cymuned glos yn dal i fod yng nghoridor Adran y Gymraeg, er gwaetha’ diddymu’r ‘Ysgol’.
Bydd hynny ddim yn newid, diolch i staff ac athrawon ymroddgar y Gymraeg, ychwanega.

