Cyhoeddwyd gan Brifysgol Aberystwyth ar ddydd Gwener yr 19eg fod y cwrs TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion) yn stopio rhedeg.

Mae’r newyddion wedi dod fel sioc at fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wrth i’r cwrs TAR ddod i ben fel opsiwn ôl-radd. Cafodd y newyddion i’w dorri i fyfyrwyr trwy e-bost annisgwyl.

Y brif rheswn dros ddileu’r cwrs TAR yw bod ‘Athrawon ddim yn gwneud cynnydd digonol’ yn ôl adroddiad Estyn 2023. Datganai Estyn 5 o argymhellion yn dilyn yr adolygiad a fydd yn cael i’w ail adolygu ymhen rhyw flwyddyn ar ddechrau 2024.

Dywedodd Prifysgol Aberystwyth mewn datganiad, “Ni fydd cyrsiau TAR yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf. O ganlyniad i benderfyniad Cyngor y Gweithlu Addysg i beidio ailachredu rhaglen TAR... ni fydd cynnig cyrsiau TAR o ddiwedd y flwyddyn academaidd hon ymlaen.”

Mae’r effeithiau’n amrywio ar garfannau eang o’r gymuned. Gwêl nifer o fyfyrwyr annhegwch wrth iddynt orfod nawr trosi at gyrsiau TAR mewn lleoliadau newydd. Mae’r cyrsiau dal i redeg yn golegau ar draws Gymru megis Prifysgol MET Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Bangor, Y Brifysgol Agored, Prifysgol y Drindod a Phrifysgol Abertawe.

Dywedodd fyfyrwraig ail flwyddyn (Mirain Jenkins) oedd yn gobeithio astudio’r cwrs TAR ymhen ddwy flynyddoedd fod hi’n “dorcalonnus i glywed fod y cwrs wedi dod ar ben.” Yn wreiddiol o Aberteifi , byddai Mirain yn gobeithio cwblhau’r cwrs TAR wrth fyw o adref. Dywedai hi ei fod yn “siom fod rhaid i mi ail-leoli er mwyn cwblhau fy mhrofiad yn y Brifysgol.”