Fel Merch yw prosiect newydd yr Urdd i hybu menywod a merched ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon a phethau sydd yn ymwneud â chwaraeon. Fe wnaeth yr Urdd gynnal Cynhadledd Fel Merch ar Ddydd Iau y 13eg o Dachwedd yn Stadiwm Caerdydd i dros 250 o ferched dros Gymru. Siân Lewis, prif weithredwr yr Urdd, wnaeth groesawu pawb i’r gynhadledd ac roedd hi’n bleser gallu siarad â hi hefyd am bwysigrwydd y digwyddiad yma, dywed Siân mai pwrpas y diwrnod oedd grymuso menywod ifanc ac i roi llais i fenywod yn chwaraeon.

Dyma ei 3edd gynhadledd Fel Merch ers ei datblygiad yn 2021. Cefais y fraint hefyd o allu cyfweld â menywod enwog yn y byd chwaraeon gan gynnwys Rhian Wilkinson, Heledd Anna a Begw Elain. Tair menyw gyda phrofiad gwahanol yn y maes chwaraeon.

Dywedodd Rhian Wilkinson taw ei hysbrydoliaeth fwyaf yn tyfu lan oedd ei mam, gan ddoedd dim merched yn bennaf yn y maes chwaraeon gan fod y mwyafrif yn ddynion. Yn ei hysgol gynradd doedd dim tîm pêl droed i ferched felly cafodd ei gorfodi i ymuno â thîm y bechgyn. Er hyn, erbyn iddi adael yr ysgol cafodd tîm ei sefydlu.

Mae Heledd Anna wedi bod yn gweithio yn y maes am dros 10 mlynedd bellach ac mae ganddi obeithion i weld bechgyn yn dod i’r cynadleddau gan ei fod yn bwysig i fechgyn weld pa mor bwerus yw e i fod yn ferch yn y byd chwaraeon. Er mai dim ond 20 mlwydd oed yw Begw Elain mae hi’n gweithio fel is-gadeirydd ieuenctid FAW, ac yn ddiweddar y mae wedi cael swydd ar BBC Radio Cymru. Yn ei chyfweliad dywedodd os oes gennych chi awydd am rywbeth dylech chi ei ddilyn, cyngor da i unrhywun â gobeithion sydd eisiau mynd mewn i’r maes chwaraeon.

Byddwn wir yn cynghori i unrhyw ferch ifanc â diddordeb yn y maes chwaraeon i fynychu un o ddigwyddiadau Fel Merch yn y dyfodol! Yn sicr dwi wedi elwa o’r diwrnod yma wrth ddysgu am brofiadau nifer o fenywod llwyddiannus yn y maes a chael adborth, cyngor a chefnogaeth trwy gydol y dydd. Rwyf yn gyffrous i weld dyfodol Fel Merch a beth sydd i ddod.