Os gofynnwch chi i unrhyw un sydd wrthi’n gwneud cais am y brifysgol, byd y geiriau “datganiad personol” yn codi ofn arnynt rwy’n siŵr. Wedi dweud hynny, ni allwn ddadlau ei fod eisoes wedi dod yn rhan annatod o geisiadau prifysgol ar hyd a lled y wlad. Mae’n gyfle i fyfyrwyr nodi eu personoliaethau, diddordebau a chyflawniadau sydd yn eu gwahanu nhw o’r gweddill. Felly, a ydy dileu’r datganiad personol yn gyfan gwbl yn syniad da?

Hands typing on a laptop.
Mae’r penderfyniad wedi drysu sawl.Photograph: Daniel Foster (via Flickr)

Cyhoeddodd UCAS yn ddiweddar fod y datganiad personol yn cael ei ddisodli gan gyfres o gwestiynau. Mae’n debyg fod y cwestiynau yma am gynnwys themâu e.e eich cymhelliant i’r cwrs, eich paratoad am y cwrs, eich paratoadau drwy brofiadau eraill, eich amodau esgusodol, eich paratoad am addysg ac eich hoff ffordd o ddysgu. Wrth archwilio’r chwech agwedd yma, fydd tîm derbyn eich prifysgolion dethol yn gallu dadansoddi’ch addasrwydd i’w cwrs nhw.

Gobeithia UCAS fydd y cynllun newydd yn dod ag “eglurder a ffocws i fyfyrwyr” ac yn “lleihau’r angen am gymorth”.

Gobeithia UCAS fydd y cynllun newydd yn dod ag “eglurder a ffocws i fyfyrwyr” ac yn “lleihau’r angen am gymorth”.

Mae’n gred i lawer fod y datganiad personol yn gatalydd holl bwysig i’r rheswm dros gael eu derbyn i’r brifysgol. Dylunnir y dasg fel cyfle i ddangos eich gallu i arddangos eich cyflawniadau. Dysga llawer o bobl sut i ddewis a dethol eu profiadau gorau ac maent yn annog myfyrwyr i ymchwilio ar beth mae’r prifysgolion yn edrych am yn eu cais. Dyma sgiliau blaenllaw fydd yn angenrheidiol i gael yn y byd gwaith ac yng nghyfweliadau cyflogaeth.

Ond ar hyd y blynyddoedd does dim amheuaeth mai’r datganiad personol yw un o’r camau sydd yn rhoi’r straen mwyaf ar fyfyrwyr. Gyda gofyniad o 4000 cymeriad (neu 47 llinell) gofidiau lawer ni fyddent yn gallu ei lenwi i’r uchafswm. Yn dibynnu ar eich ymroddiad i fywyd yr ysgol ac yn allgyrsiol, gall ysgrifennu dros dudalen am eich diddordebau brofi i fod yn heriol. I ychwanegu at hynny, nodir bod y cymorth wrth ysgrifennu sydd ar gael i ddisgyblion yn amrywio o ysgol i ysgol. Dywed ‘UCAS’ fod y datganiad personol yn ffafrio ymgeiswyr o’r dosbarth canol. Ymhellach, amrywir maint ysgolion a niferoedd y grŵp blwyddyn, golygai hyn fod rhai yn cael mynediad at fwy o amser un-wrth-un wrth ysgrifennu eu datganiadau.

Mae’r cymorth wrth ysgrifennu datganiad personol yn amrywio o ysgol i ysgol ac yn yn ffafrio ymgeiswyr o’r dosbarth canol, medd UCAS.”

Dywed rhai ei fod yn rhy amwys a bod myfyrwyr wedi eu drysu yn achos hynny. Amlygir bod galw am strwythur mwy penodol ac felly ceir dadleuon am degwch y datganiad personol mewn sawl sgwrs.

Pwrpas y datganiad personol o’r cychwyn oedd paratoi ymgeiswyr am addysg uwch. Canmolwyd y datganiad am wahaniaethu myfyrwyr sydd â’r un graddau. Ond, mae dileu’r cam o’r broses cais yn sicr yn palmantu llwybr ar gyfer proses ymgeisio fwy cynhwysol i’r dyfodol.