Mae pobl ifanc yn teimlo fod gwerthiant fêps untro mewn clybiau nos yn eu ‘hannog’ i ddechrau fepio.
Yn ôl yr elusen Ash ‘gwelwyd cynnydd o 50% yn nifer y bobl ifanc a phlant sy’n arbrofi gyda fêps ers 2023’. Gyda chlybiau nos yn gwerthu fêps untro, a yw hyn yn ffactor sy’n gyfrifol am y cynnydd hwn o ddefnyddwyr fêps untro?
Yn wahanol i ysmygu sigaréts arferol nid yw ysmygu fêps y tu mewn i fannu cyhoeddus, di-fwg yn torri unrhyw drosedd. Noda deddfwriaeth Ddi-fwg Llywodraeth Cymru ‘os bydd unigolyn yn defnyddio e-sigarét/fêp mewn lleoliad y mae’n ofynnol iddo fod yn lleoliad di-fwg, ni fydd yr unigolyn hwnnw’n cyflawni trosedd’.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, cafodd Rheoliadau ‘Di-fwg’ (2007) eu cyflwyno i amddiffyn gweithwyr a’r cyhoedd rhag effeithiau niweidiol mwg ail law. Er hyn, teimla Heledd Prys, Myfyrwraig o Brifysgol Caerdydd, y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth i wahardd y defnydd a gwerthiant o fêps untro mewn clybiau nos.
‘Annheg iawn ar y rhai sydd yn dewis peidio’
“Mae’n annheg iawn ar y rhai sydd yn dewis peidio â ‘feipio’ gan fod y mwg yn treiddio trwy’r clwb ac felly’n ein gwneud yn ysmygwyr goddefol. I fod yn onest, rwy’n eithaf amheus ohonynt gan eu bod yn sylweddau gweddol newydd, sy’n golygu nad oes llawer o waith ymchwil wedi’i wneud iddyn nhw ar hyn o bryd” meddai.
“Mae’n anghyfrifol iawn i glybiau nos fod y neu gwerthu gan fod mwy o debygrwydd i bobl gael eu darbwyllo i brynu ‘fêp’ o dan ddylanwad alcohol, a eu bod o fewn eu cyrraedd. Yn bendant, dylid cyflwyno deddfwriaeth i wahardd ‘fepio’ tu mewn i glybiau nos. Ni ddylai clybiau nos fod yn annog hyn, gan eu bod yn targedu poblogaeth ifanc, sy’n cael eu dylanwadu’n hawdd”
Mae Dr. Amira Guirguis, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn arbenigwr ym maes Camddefnyddio Sylweddau’ ac yn lleisio’i phryderon dros fepio ymhlith pobl ifanc:
“Gall fêps arwain at ddatblygu ymddygiadau caethiwus ac arbrofi gyda sylweddau sydd yn hawdd mynd yn gawth iddynt, fel nicotîn, yn ogystal â chael eu hamlygu i sylweddau niweidiol – rhai ohonynt efallai sydd ddim erioed wedi cael eu profi trwy lwybr anadliad.”
“Mae’r arfer o werthu fêps mewn clybiau nos yn ei gwenud yn haws cael gafael ar ddyfeisiau a allai fod yn niweidiol, heb ddigon o fonitro i gyflwyno cyfyngiadau er enghraifft, i’r rhai dan 18 oed” meddai.
Gofynnwyd i glwb nos, sy’n gwerthu fêps untro, am y rheswm dros eu penderfyniad i’w gwerthu. Yn ôl y clwb nos:
“Daeth cwmni o’r enw Vapes Apes atom yn cynnig i osod peiriant gwerthu fêps yn ein clwb nos. Yn gyson, roedd pobl yn holi ble roedd y siop agosaf i brynu fêp neu sigaréts. Oherwydd hyn, penderfynon ni dderbyn cynnig Vapes Apes. Er bod peiriannau gwerthu fêps y clwb nos wedi’i leoli yn nghefn y clwb ac ddim yn wynebau y cwsmeriaid mae gwerthiant y fêps wedi bod yn llwyddiannus ac yn boblogaidd.”

