Os ydych chi’n bwriadu troedio strydoedd Caerdydd yn y misoedd nesaf, mae gan y brifddinas ddigon i’w gynnig i’ch difyrru drwy’r haf o ran y sector cerddoriaeth.

Gyda Bruce Springsteen newydd berff ormio yn Stadiwm y Principality, mae digon o wynebau cyfarwydd eto i ddod yn y brifddinas yr haf yma.

Taylor Swift

Mae cryn siarad wedi bod am ymweliad Taylor Swift i Gaerdydd wedi bod yn ddiweddar ac os ydych chi’n ddigon ffodus o wedi llwyddo i gael gafael ar y tocynnau prin, yna mae am fod yn fi s Mehefin i’w gofio. 18fed o Fehefi n yw’r dyddiad dan sylw ble fydd Stadiwm y Principality yn llawn gliters ac esgidiau cowbois. Mae Pre Concert Party ar gael hefyd yn y Botanist rhwng 14:00 a 18:00 yh i’r rhai sy’n awyddus.

Taylor Swift performing on stage
Photograph: Eva Rinaldi (via Flickr)

Catfish and The Bottlemen

Mae’r band llwyddiannus o Landudno, Catfish and Th e Bottlemen hefyd yn ymweld â Chaerdydd yn ystod yr haf. Ar ôl seibiant o ddwy flynyddoedd, bydd modd gweld y band yn eu gogoniant unwaith eto ar yr 20fed o Orff ennaf yng nghastell Caerdydd.

Catfish and the Bottlemen performing on stage
Photograph: Drew de Fawkes (via Flickr)

Tafwyl

I’r rhai ohonoch sy’n mwynhau cerddoriaeth Gymraeg mae Tafwyl yn ôl am flwyddyn arall eleni! Rhwng y 12fed a 14eg o Orff ennaf eleni, bydd cyfle i chi fwynhau ystod eang o ddoniau Cymraeg gan gynnwys Yws Gwynedd, Gwilym, Eden, Al Lewis, Meinir Gwilym a Pys Melyn.

Mae’r wyl sydd wedi’w threfnu gan Menter Caerdydd yn dychwelyd yn nôl i Barc Bute ac yn dathlu ei phenblwydd yn 18. Bydd Tafwener yn cael ei gynnal nos Wener y 12fed, gyda Carabela, Connie Orff , Mel Owen a Carwyn Blayney yn perfformio. Bydd Dragwyl yn cael ei gynnal ar yr 11eg o Orff ennaf yng Nghanolfan y Mileniwm. I hawlio’ch tocynnau, ewch i www.mentercaerdydd.cymru.

Wrth gyhoeddi’r artistiaid, dywedodd Tafwyl ar eu cyfrif Instagram, ‘Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru fydd sawl elfen newydd cyffrous yn Tafwyl eleni, dilynwch i gadw fyny gyda’r newyddion!