Yn sicr, mae dilyn cwrs JOMEC Cymraeg wedi bod yn fuddiol iawn i lawer o newyddiadurwyr ifanc heddiw sydd bellach yn gweithio gyda corfforaethau megis y BBC, Sky News, Newyddion S4C a llawer llawer mwy.

Yn ôl Meleri Williams, sydd yn ysgrifennu, gohebu, cynhyrchu a cyflwyno yn adran newyddion BBC Cymru ers dwy flynedd bellach, fe gafodd hi “gyfleoedd gwerthfawr iawn wrth astudio yn JOMEC a chymaint yn fwy drwy astudio’n Gymraeg.”

Llais y Maes oedd uchafbwynt mwyaf Meleri gan mai dyma’r “cyfle cyntaf i holi gwleidyddion, gohebu ar straeon a pheidio bod ofn mynd i siarad â phobl.”

Newyddiadurwr talentog arall sydd hefyd yn gyn-fyfyriwr yn JOMEC Cymraeg yw Tomos Evans, sydd bellach yn ohebydd Cymru i Sky News.

Graduates throwing mortarboards into the air
Photograph: John Goodman Via Flickr

Dywedodd Tomos mai dilyn cwrs Cymraeg Jomec “oedd un o’r penderfyniadau gorau i mi ei wneud.”

Dywedodd Meleri hefyd bod ei dyled yn “fawr iawn i holl staff y Brifysgol!”

“Rydym ni fel graddedigion yn hynod o ffodus i fod wedi dysgu cymaint gan ddarlithwyr gwybodus a phrofiadol.

Tu hwnt i hynny, roeddwn yn ffodus i fanteisio ar gyfleoedd allgyrsiol gwerthfawr gan gynnwys fod yn rhan o gyfryngau Cymraeg Caerdydd.

Dwi’n parhau mewn cyswllt a nifer o’m cyd-raddedigion sydd wedi mynd ati i weithio yn y maes newyddiaduraeth ac yn falch iawn o’u gweld yn llwyddo a thorri tir newydd”, meddai Tomos Evans wrth edrych drafod ei gyfnod yn y brifysgol.

Dywedodd Tomos fod modiwlau fel Y Senedd, Y Straeon a’r Spin “heb os wedi rhoi fi ar ben ffordd cyn dechrau fy ngyrfa newyddiadurol a dwi’n hynod ddiolchgar i griw JOMEC Cymraeg am hynny.”