Gyda Warren Gatland yn dychwelyd yn ôl i Gymru, roedd y disgwyliadau’n uchel a’r pwysau ymlaen. Ar ôl ennill y gamp lawn yn ei ymgyrch cyntaf yn y chwe gwlad gyda’r tîm Cymreig yn 2008, roedd y Cymry yn uchel eu parch o Gatland. Roedd gan Gymru gystadleuaeth gref yn eu gemau chwe gwlad cyntaf yn erbyn prif pencampwyr rygbi dynion y byd, Iwerddon. Disodlodd Iwerddon Ffrainc fel y sgôr uchaf, yn dilyn eu buddugoliaeth yn y gyfres brawf yn Seland Newydd. Yn yr un categori daeth y Cymru yn wythfed, ychydig y tu ôl i Alban a orffennodd yn seithfed. Wrth i’r stadiwm lenwi a’r awyrgylch ddechrau adeiladu’n gyflym, daeth y chwaraewyr allan i ganu’r anthem genedlaethol. Dechreuodd y gêm o blaid Iwerddon gyda hwythau’n dominyddu’r hanner cyntaf, gan olygu bod y sgôr yn yn 3-27 i Iwerddon. Daeth Cymru yn ôl i mewn i’r ail hanner yn gryf gan ennill cais yn gynnar ar gynyddu eu pwyntiau i gyfanswm o 8.
Roedd hi’n ymddangos fel bod Cymru wedi dod yn ôl yn brwydro. Fodd bynnag, byrhoedlog oedd hyn gyda’r tîm a gafodd y sgôr uchaf yn y byd yn dod yn ôl, gan orffen y gêm yn 10-34 i Iwerddon. Mae taith chwe gwlad Cymru yn parhau yn yr Alban cyn dychwelyd adref i chwarae yn erbyn Lloegr ar y 25ain o Chwefror. Wrth i’r chwe gwlad barhau, mae Warren Gatland wedi penderfynu gadael Alun Wyn Jones allan o’r garfan yng Nghaeredin. Fodd bynnag, mae’n gêm gyffrous i Christ Tshiunza a Dafydd Jenkins a fydd yn chwarae am y tro cyntaf i’w tîm cenedlaethol yn erbyn yr Alban. Yn anffodus methiant fu i Gymru yn Murrayfield wrth iddynt golli 7-35 i’r Alban. Dywedodd Gwyn Jones, cyn chwaraewr rhyngwladol mai dyma oedd “Y perfformiad gwaethaf gan Gymru dan Gatland erioed.” Gyda Lloegr yn curo’r Eidal 31-14, cawn weld beth fydd y canlyniadau penwythnos nesaf wrth i Gymru wynebu Lloegr yn Stadiwm y Principality.
