Cymru. Hen wlad ein tadau. Gwlad sydd yn sicr, yn annwyl i ni. Gwlad hoffem ei gwarchod, ei chynnal, ei gofalu. Mae’r degawdau diwethaf wedi bod yn dyst i sawl mudiad amgylcheddol, protestiadau ‘Just Stop Oil’, ralis Greta Thunberg a rhaglenni Sir David Attenborough, i enwi rhai. Mae pob un yn tynnu sylw at ein hamgylchedd, a phwysigrwydd gwarchod ein byd.
Mae llawer o drafodaeth yn dod gyda’r pwnc yma, gan gynnwys cwestiynau am ddyfodol ceir. Beth yw dyfodol ceir? Ai trydan yw’r ffordd ymlaen? Ydy’r syniad yn rhesymol? Mae sawl cwestiwn yn dod, a dwi am archwilio i bosibilrwydd - neu beidio - o Gymru fel cenedl o briffyrdd llawn ceir trydanol.
Mae ceir trydanol yn gwella ansawdd aer, oherwydd lefelau llai o garbon deuocsid yn cael ei yrru allan o’r car, ac o ganlyniad o fudd mawr i’r amgylchedd. Dyma yw’r rheswm pam mae amcan gan Lywodraeth San Steffan i waredu ar werthiant ceir petrol a disel erbyn 2030. Ond mae peryg gan nifer am dynged y batrïau sy’n cael eu defnyddio o fewn y ceir trydanol, a all fod yn fwy gwenwynig na cheir petrol os nad ydynt yn cael eu hailgylchu.
Ar gyfartaledd, mae car trydanol yn costio £10,000 yn fwy na char petrol neu ddisel. Ond, rhaid cofio nid oes rhaid talu am betrol, dim ond i wefru’r car. Mae hyn yn gallu lleihau’r gost o yrru, ond gyda’r sefyllfa costau byw, mae gwefru yn broblem i yrwyr ceir trydanol, gan fod costau gwefru yn agosáu at gostau petrol. Mae hyn yn anarferol, ond mae’n gwneud y drafodaeth yn ddiddorol iawn.
Yn aml gyda gyrwyr ceir trydanol, nid cost y gwefru sy’n peri problemau, ond y gwefru ei hun. Yn debyg i’ch ffon symudol, mae rhaid aros i’r car gwefru a llenwi â thrydan. Ar gyfartaledd, mae hyn yn cymryd ychydig llai na 8 awr i wefru o ddim byd i 100% llawn, ond gellid ychwanegu hyd at 100 milltir o fewn 40 munud, yn dibynnu ar y car. Ond y broblem fawr sydd gan sawl gyrrwr o geir trydanol yw dod o hyd i ardal wefru. Gan fod angen aros i wefru, mae’n debygol bydd dim lle ar gael, ac ar hyn o bryd nid oes digon o ardaloedd gwefru yng Nghymru i bawb. Cymru yw’r genedl gyda’r lleiaf o ardaloedd gwefru ym Mhrydain, a gydag ardaloedd gwledig y wlad, mae’n rhaid i yrwyr ceir trydanol trefnu eu teithiau yn ofalus er mwyn atal fod ar goll heb danwydd.
Mae’n debygol bod manteision amgylcheddol ceir trydanol yn trechu unrhyw ddadl arall, ond ar hyn o bryd, nid yw Cymru yn barod am y newid. Mae angen system fwy effeithiol er mwyn sicrhau bod car trydanol yn opsiwn rhesymol i bawb. Mae hyn yn cynnwys costau ac argaeledd gwefru. Os ydym am gynnal ein gwlad, rhaid newid, ac mae hyn yn cynnwys y ffordd rydym yn teithio. Mae’n bosib iawn, mai ceir trydanol fydd yr ateb yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod ein gwlad, a’n heniaith, yn parhau.
