Mae tîm pêl droed merched Cymru un cam yn agosach at gymhwyso i Gwpan y Byd 2027.

Bu cyffro mawr yn Llanelli yn ddiweddar ar y 13eg o Hydref wrth i dîm pêl droed merched Cymru guro Albania gyda sgôr aruthrol o 3-0 gan eu rhoi nhw un cam yn agosach at gymhwyso i Gwpan y Byd yn 2027.

Roedd hi’n gêm ragbrofol hynod o gyffrous gyda Mayzee Davies, Elsie Hughes a Hannah Cain yn sgorio gôl yr un er mwyn sicrhau llwyddiant i Gymru. Roedd y Wal Goch yn gryfach nac erioed, gyda dros 4,837 o gefnogwyr ym mhresennol ym Mharc y Sgarlets; record newydd i gêm ragbrofol menywod Cymru. Yn sicr, bydd y noson hon wedi’i hoelio yn y côf yn hanes pêl droed menywod Cymru.

Ymysg y Wal Goch bu cefnogwyr o Geredigion yno i gefnogi’r chwaraewraig ifanc a thalentog, Casi Gregson o Lambed. Cafodd Casi noson dyngedfennol draw yn Llanelli wrth lwyddo i feddiannu ei chap cyntaf i Gymru wrth gael ei galw ar y cae yn y 85’ muned.

Daw Casi yn wreiddiol o Lambed ac wedi tyfu lan yn chwarae pêl droed “gyda’r bois” gan nad oedd tîm merched yn yr ardal ar y pryd. Ers hynny, mae hi wedi bod yn chwarae i amryw o dimau megis Newcastle United cyn cyrraedd y tîm cenedlaethol.

"Gwireddu my mreuddwyd fel merch fach"

Mewn cyfweliad gyda Gair Rhydd, dywedodd Casi bod y gêm wedi “gwireddu fy mreuddwyd fel merch fach” hynny ydi, cael chwarae pêl droed yn broffesiynol dros ei gwlad.

Bu iddi sôn am y daith hir i gyrraedd y tîm gan gyfeirio yn benodol tuag at y cyfnod TGAU a mynegi ei bod hi wedi “gweld e’n anodd i gadw cydbwysedd rhwng fy mywyd fel disgybl a’m bywyd fel chwaraewraig pêl droed proffesiynol.”

"Teimlad gorfoleddus"

Bu i mi holi Casi sut deimlad oedd chwarae dros Gymru am y tro cyntaf. Dywedodd Casi ei fod yn deimlad “hollol orfoleddus” gan ei bod wedi “gwireddu fy mreuddwyd o’r diwedd.”

Ategodd tuag at hyn gan ddweud ei fod “fel cherry on top of the cake”. Does dim dwywaith felly fod y gêm wedi bod yn un holl bwysig iddi ac mae dyfodol disglair iawn o’i blaen.

Un gêm ragbrofol ‘two-legged’ sydd ar ôl i dîm menywod Cymru, hynny yn erbyn Norwy ar y 1af a’r 5ed o Ragfyr. Bydd y merched yn chwarae rhan gyntaf y gêm benderfynol yn Stadiwm Clwb Pêl Droed Dinas Caerdydd, a’r ail-ran draw yn Norwy.

Dymunwn pob lwc i’r tîm a hwythau ar derfyn y gemau rhagbrofol cyffrous hyn.

Ymlaen.

Gwireddu fy mreuddwyd fel merch fach