Daeth miloedd o bobl at ei gilydd i ddathlu’r iaith Gymraeg, diwylliant, cerddoriaeth a chreadigrwydd, a hynny o ganlyniad i Eisteddfod hynod lwyddiannus, y Garreg Las, dros yr Haf. Wedi wythnos o gystadlu, perfformio a chymdeithasu, mae’n amlwg bod y Brifwyl yn chwarae rôl ganolog fel rhan o ddiwylliant Cymru.

Heidiodd dros 100,000 o bobl i’r ‘Rifiera Gymreig’ wrth i Lantwd gynnig amrywiaeth o fandiau, cystadlaethau newydd ac ymweliadau pwysig. Treuliodd y Prif Weinidog ddigon o amser ar y maes, yn sgwrsio a mwynhau. Bu’r maes yn orlawn cyn i’r Bandana gamu ar lwyfan, am y tro cyntaf ers deng mlynedd o saib, ac yn wir, aeth bawb i “sefyll wrth y bar” ar ôl y gig.

Dywedodd Fflur James, Cadeirydd Pwyllgor Maes B, fod yr Eisteddfod hon wedi “torri tir newydd gan gwmpasu tair sir - Dê Ceredigion, Gogledd Sir Benfro a Gorllewin Sir Gâr”. Soniodd hefyd am yr “ymdrech cafodd ei roi yn lleol er mwyn cynnal yr Eisteddfod mewn ardal Gwledig”.

Ceir trafodaeth ynghylch tuedd newydd yr Eisteddfod i baru siroedd er mwyn rhannu’r gwaith ariannu i fwy o ardaloedd:

“Mae’r targed o £450,000 i gael ei godi ar gyfer pob ‘Steddfod yn llawer o arian, ac mae gofyn i un sir geisio’i godi yn dipyn o gamp, yn enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad. Dwi mor falch bod Eisteddfod 2027 yn dod â Maldwyn a Meirionnydd at ei gilydd. Mae’n bwysig bod dim ffîn yn gwahanu pobl mor debyg”.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cynhyrchu tua £16 Miliwn o bunnoedd i’r economi, pob tro caiff ei gynnal. Yn Eisteddfod 2024, “i bob punt cafodd eu buddsoddi, daeth £60 yn ôl i’r Economi leol”, yn ôl Business Live. Soniodd Fflur James bod “pawb yn diolch i’r Eisteddfod” wrth gydnabod y buddion Economaidd, ac “roedd y gwestai, tafarndai a siopau’n llawn, a llawer o stondinau yn teithio i Steddfod 2027 oherwydd dylanwad y Garreg Las”.

Tra’n edrych ymlaen at Brifwyl y Brifddinas yn 2028, dywedodd Fflur James, “’da ni mor lwcus yn ardal Caerdydd, mae gymaint o amrywiaeth o bobl yma, ac mae’n rhaid i ni ddefnyddio hynny i fantais, a dim ceisio gwneud hi’n Steddfod tebyg i’r blynydde cynt.” “Gobeithio bod Eisteddfod y Garreg Las wedi dangos i beidio trio chwarae’n saff, wrth gael ‘acts’ annisgwyl, a cheisio dod â siaradwyr newydd, o bob ochr y byd, at ei gilydd mewn ffyrdd hollol newydd”.

Hir-oes i’r Eisteddfod!