Roedd Elin fflur yn llygad ei lle pan ddywedodd y dylai diwrnod Cân i Gymru fod yn wyliau cenedlaethol bob blwyddyn. Yn sicr mi oedd hi’n teimlo fel un yn ein tŷ ni ar Fawrth y trydydd eleni. Dyma uchafbwynt calendr s4c i nifer, boed hynny i weld outfit Elin Fflur, gwallt Trystan, cynnwys twitter, y cweryla rhwng Arfon Wyn ac Ifan Swnami neu’n unswydd er mwyn y caneuon (ond annhebygol). Er efallai i nifer honni nad oedd safon eleni cystal â blynyddoedd eraill o ran sawl un o’r ffactorau uchod, yn sicr fe gawson ni wledd o wahanol fathau o gerddoriaeth a pherfformiadau, o ganeuon gwerin i ballads a roc.

Ymysg y cystadleuwyr eleni roedd un o aelodau’r Gymgym, Siwan Iorwerth, sydd yn ei blwyddyn olaf yma ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio’r gwyddorau biofeddygol. Gyda gweddill o aelodau grŵp ‘Tant’, Elliw ac Angharad, fe berfformiodd Siwan y gân ‘Cysgu’ gan syfrdanu Caerdydd a Chymru gyfan. Wrth sôn am y profiad hwn, dywedodd Siwan fod y tair ohonyn nhw wedi “joio’n ofnadwy, chuffed efo’r canlyniad i feddwl bod ni yn erbyn caneuon ffab eraill” a’u bod nhw’n “falch cal neud o i Alun hefyd achos mae o wastad di bod mor gefnogol ohonom ni ers ni gychwyn perfformio”. Mae Alun Evans, cyfansoddwr y gân ‘Cysgu’, yn wyneb cyfarwydd i’r gystadleuaeth, wedi cystadlu pedair gwaith fel rhan o’r wyth cystadleuydd terfynol ac wedi dod i’r brig yn 2010 gyda’r gân ‘Bws i’r Lleuad’. Dywedodd Siwan ei bod hi “di bod mor lyfli cal cyfarfod yr artistiaid eraill” a bod “pawb yn gefnogol o’i gilydd” gyda “atmosffer yn braf iawn drwy’r paratoi a drwy’r rhaglen ‘i hun.” Cyfansoddodd Alun Evans y gân hon ar noson dyddiad cau’r gystadleuaeth ac felly diolch byth ei fod wedi gan i’r perfformiad arbennig hwn ennill y drydydd safle iddo eleni.
Yn yr ail safle roedd ‘Cân i Mam’ gan Huw Owen ond yn fuddugoliaethus eleni roedd Alistair James gyda ‘Patagonia’. Efallai mai vibes latino, unigryw’r gân lwyddodd hoelio sylw’r cyhoedd ac ennill y gystadleuaeth i’r cyfansoddwr, roedd hi’n sicr yn chwa o awyr iach i Cân i Gymru.
