Wel am wledd oedd Cleddau i’w wylio dros yr wythnosau diwethaf. Cyfres dditectif a rhamant ffuglennol, chwe phennod, sydd wedi llwyddo i’n cipio ni o’r eiliadau cyntaf, reit hyd at y diwedd penigamp (heb ddatgelu gormod!) sydd yma. Rhwng y gwaith ditectif a’r stori garwriaethol sy’n gwau trwy’r gyfres, mae’r ddwy thema honno wedi’u plethu’n grefftus wrth inni ddod i adnabod y cymeriadau, eu teuluoedd, ac achosion marwolaethau tair nyrs ifanc yng Nghoed Cleddau, yn Sir Benfro. Ai cyd-ddigwyddiad yw’r marwolaethau hynny felly, ai peidio? Nod y llu heddlu felly yw datrys y dirgelwch presennol yng Nghoed Cleddau, ond hynny dan gysgod marwolaethau’r gorffennol, sy’n peri’n broblem drwy’r gyfres. Wrth i’r prif gymeriadau, Ffion a Rick (dau dditectif) balu i ddyfnderoedd y gorffennol, mae nifer fawr o gyfrinachau a chelwyddau’n cael eu datgelu drwyddidraw, nid yn unig ynghylch y marwolaethau chwaith. Rhwng y sgriptio a’r actio, y dirgelwch a’r rhamant- mae gan Cleddau rhywbeth fydd yn apelio at bawb. Nid drama dditectif gyffredin mohono, o na. Mae yma glytwaith cain o straeon o orffennol y prif gymeriadau, D.S Rick Sheldon a D.I Ffion Lloyd yn dod i’r fei drwy gydol y gyfres, ac yn cael eu gwau yn gelfydd law yn llaw â straen yr achosion sydd yn cadw’r ddau yn brysur yn eu gwaith fel ymchwilwyr trosedd. Mae holl hanes a chreithiau’r gorffennol yn dod yn ôl yn eu tro i holi cwestiynau i’r prif gymeriadau, a hynny mewn golygfeydd llawn tensiwn, emosiwn a drama.

Mae’r gerddoriaeth sy’n cydfynd â’r holl olygfeydd drwy gydol y gyfres yn ychwanegu’n helaeth at y naws sy’n cael ei greu hefyd. Mae’r gerddoriaeth ddramatig, fel curiad calon mewn golygfeydd dramatig yn cyflymu’r digwyddiadau heb yn wybod i ni fel cynulleidfa, ac yn ein cadw ar flaen ein seddi. Mae’r teitlau hefyd ar ddechrau pob pennod, ac am hynny; pob chwarter ym mhob pennod yn ychwanegu’n helaeth at osod y naws wrth ddychwelyd i wylio’r gyfres, gyda’r darluniau o wreiddiau tu ôl i deitl y gyfres yn cyfeirio at sawl agwedd yn y gyfres- sef gorffennol Ffion a Rick yn ei gwreiddiau yn Noc Penfro yn ogystal â theitl y gyfres ei hun, Cleddau. Mae hwnnw wedyn yn tynnu ar orffennol y ddau, ynghyd â lleoliad y marwolaethau hanesyddol hefyd.

Mae cyfrinachedd yn thema ganolog i’r gyfres hon hefyd, rhwng cyfrinachau cudd perthynas Ffion a Rick a dwyster hynny, ynghyd â chymhlethdodau tair marwolaeth nyrs ifanc, sydd yn procio meddwl Ffion hyd heddiw- ai’r dyn iawn sydd yn y carchar? Aiff y gyfres felly ar daith gyda’r ddau dditectif i archwilio hynny, a darganfod gwirioneddau newydd o orffennol niwlog ardal Doc Penfro.

Felly da chi, heb rannu mwy o wybodaeth, mynnwch brynhawn rhydd glawiog, a gwylio’r gyfres chwe phennod neilltuol hon, sy’n wefreiddiol o gynhyrchiad. Mae yma dalent hynod yn yr actio, y cynhyrchu, y sgriptio a’r egin-syniad. Dyma inni gynhyrchiad gan S4C sydd wir yn ei gosod hi ar dir uchel, ar ei phen ei hun, uwchlaw nifer o ddramau tebyg iddi. Campwaith o actio, cynhyrchu ac ysgrifennu sydd yma.