Gyda phoen blwyddyn ddiwethaf ymhell yn y gorffennol i gefnogwyr rygbi Cymru, mae’n bryd i ffocysu ar y twrnament presennol, a pherfformiadau’r crysau coch yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc.
Mae’r Ffrancwyr wedi croesawu cefnogwyr o bedwar ban y byd ar gyfer y twrnament, ond u rhai yn mwynhau eu haros yn fwy nag eraill. Bu cefnogwyr Cymru’n teimlo’n falch dros eu gwlad wrth wylio’r cewri Cymreig yn trechu Fiji, Portiwgal ac yna Awstralia. Gyda’r fuddugoliaeth gampus yn Lyon yn tanio dychymyg pob un o’r Cymry, hoffwn edrych i’r hyn sydd yn dal i chwarae, wrth ofyn, oes gan Gymru cyfle i ennill Cwpan Rygbi’r Byd 2023?
Oes gan Gymru cyfle i ennill Cwpan Rygbi’r Byd 2023?
Wrth ysgrifennu hyn mae Cymru yn paratoi i chwarae eu gêm olaf yn y grŵp, yn erbyn Georgia yn Nantes. Gem dwi, a sawl cefnogwr rygbi arall, yn disgwyl i Gymru ennill. Gyda’r canlyniad yma bydd Cymru yn gorffen yn gyntaf yn y grŵp, sy’n meddwl bydd gennym gêm yn erbyn tîm ail safle Grŵp D, sy’n cynnwys Lloegr, yr Ariannin, Siapan, Samoa a Chile. Wrth ysgrifennu, mae gan Samoa a Siapan nifer cyfartal o bwyntiau, gyda’r Ariannin pwynt yn unig du ôl iddynt. Er hyn, mae’n debygol mai’r Ariannin fydd yn wynebu Cymru yn yr wyth olaf, gan eu bod yn ffefrynnau i faeddu Siapan a Chile.
Bydd yr Ariannin yn gêm gystadleuol, gyda phac y Puma’s yn gorfforol, a’u cefnwyr cyffrous, egnïol, mi fydd yn sialens fawr i Gymru goresgyn. Mae cyfle y gall Cymru gwynebu tîm arall yn yr wyth olaf, ond mae’n debygol mai Cymru vs yr Ariannin fydd yn digwydd.
Gan obeithio y bydd Cymru yn ail-fyw eu buddugoliaeth yn erbyn y Puma’s o’r Tachwedd diwethaf, beth am y rownd gynderfynol? Fel mae cefnogwyr Cymru yn deall, dyma ‘busnes-end’ y twrnament. Byddwn yn chwarae enillydd gem yr wyth olaf rhwng enillydd Grŵp B ac ail safle Grŵp A. Dyma’r grwpiau mwyaf cystadleuol yn y twrnament, gyda Ffrainc, Seland Newydd a’r Eidal yn gystadleuol yng Nghrŵp A, ac Iwerddon, De Affrica a’r Alban yng Ngrŵp B. Ar sail canlyniadau arall y gystadleuaeth, mae’n debygol y gwelwn Iwerddon yn ennill eu grŵp, ar ôl buddugoliaeth gampus yn erbyn De Affrica, ac felly’n rhan o’r gêm wyth olaf arall. Yn o gystal mae’n debygol y gwelwn Seland Newydd yn gorffen yn ail yn eu grŵp, ar ôl colled yn erbyn Ffrainc yn gêm agoriadol y twrnament. Er hyn, mae’n debygol (os mae Cymru yn parhau i ennill) mi fydd gennym gêm gynderfynol yn erbyn Iwerddon neu Seland Newydd.
Mae Iwerddon (wedi’u rancio’n gyntaf yn y Byd) yn ffefrynnau i ennill y gystadleuaeth, ac mae’n anodd gweld ffordd y gall Cymru oresgyn yr her yma oherwydd ansawdd carfannau Iwerddon a Seland Newydd, ac felly dwi’n rhagweld mai dyma fydd diwedd taith Cymru yn Ffrainc.
Er hyn, os mae gan unrhyw un y gallu i danio carfan i fuddugoliaethau hanesyddol, dwi’n hyderus mai Warren Gatland yw’r dyn yma, a dwi’n obeithiol mi fyddwn ni fel Cymry yn gweld Jac Morgan yn codi Cwpan Webb Ellis yn yr wythnosau nesaf. Yr unig beth allwn ni gwneud yw parhau i gefnogi a gobeithio...

