Cyhoeddwyd cyllideb newydd Llywodraeth y DU ar y 30ain o Hydref 2024 gan y Canghellor, Rachel Reeves. Dyma greu hanes, fel y Canghellor benywaidd cyntaf i gyhoeddi cyllideb Llywodraeth y DU. Dyma gyllideb gyntaf y Blaid Lafur yn San Steffan ers 2010, ond beth yw ei goblygiadau i Gymru?

Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.7 biliwn ychwanegol yn sgîl gwariant ychwanegol yn Lloegr ar faterion sydd wedi’u datganoli i Gymru. Yn ôl y Canghellor dyma’r “cynnydd mwyaf mewn cyllid ers datganoli”. Dywed gweinidogion y DU y bydd hwn yn caniatáu “buddsoddiad sylweddol” mewn ysgolion, tai, iechyd, gofal cymdeithasol a thrafnidiaeth yng Nghymru.

Blaenoriaeth gweinidogion Cymru yw lleihau rhestrau aros y GIG. Am y tro cyntaf hefyd, cyhoeddwyd y byddai Llywodraeth y DU yn cyfrannu at ddiogelu tomenni glo yng Nghymru. Y swm dynodedig ar gyfer hwn yw £25m.

Dywed Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, “Ychydig dros wythnos ar ôl diwrnod cofio trychineb Aberfan mae’n briodol ein bod wedi ymrwymo £25m i wneud tomenni glo yn ddiogel”. Ond yng Nghymru mae 360 o domenni glo yn wynebu risg uchel o ddatblygu problemau, ac mae grwpiau cymunedol a gwrthbleidiau gwleidyddol wedi rhybuddio y bydd angen llawer mwy na’r swm dynodedig hwn er mwyn mynd i’r afael â’r broblem. Mae gweinidogion yng Nghymru wedi dadlau fod y problemau hyn wedi bodoli ers cyn datganoli, ac y gallai gostio £500-600 miliwn ledled Cymru.

Hefyd yn y gyllideb y mae cefnogaeth ar gyfer dau brosiect hydrogen electrolytig yn Aberdaugleddau a Phen-y-bont ar Ogwr, a fydd yn cefnogi cynhyrchu hydrogen carbon isel, yn ogystal â “chreu swyddi lleol o ansawdd da yn uniongyrchol”. Er i’r Canghellor, Rachel Reeves, ddweud yn ystod yr ymgyrch etholiadol ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol na fyddai hi’n codi trethi, wrth iddi gyhoeddi’r gyllideb newydd, dywedodd y bydd cynnydd o £40 biliwn i drethi. Bydd y mwyafrif o’r swm hwn yn deillio o gynnydd mewn taliadau yswiriant gwladol ar gyfer cyflogwyr.

O fis Ebrill ymlaen, bydd cwmnïau yn talu yswiriant gwladol ar gyfradd o 15% ar gyflogau dros £5,000 – newid o’r 13.8% ar gyflogau dros £9,100 yn bresennol. Fodd bynnag, bydd lwfans cyflogaeth, sy’n caniatáu busnesau llai i leihau eu hatebolrwydd yswiriant gwladol, yn cynyddu o £5,000 i £10,500. Un o’r newidiadau mwyaf dadleuol sydd wedi deillio o’r gyllideb newydd, yw y bydd treth etifeddiaeth o 20% yn cael ei godi ar asedau amaethyddol sydd werth dros £1 miliwn, o fis Ebrill 2026.

Bydd y dreth hon yn cael ei thalu dros gyfnod o 10 mlynedd. Mae’r Canghellor yn honni “mi fydd hyn yn effeithio ar nifer fechan iawn o eiddo amaethyddol”, a dywed Jo Stevens, “Rydym wedi gorfod gofyn i’r bobl â ‘r ysgwyddau mwyaf llydan i dalu ychydig yn fwy fel ein bod â’r arian hwnnw i leihau rhestrau aros, buddsoddi yn ein hysgolion a gwneud ein strydoedd yn fwy diogel”. Ond, mae Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr wedi galw’r newid i dreth wrth etifeddu fferm yn “drychinebus” i ffermwyr teuluol.

Yn ôl Jo Stevens, mae’r gyllideb yn “dangos y gwahaniaeth” sy’n cael ei wneud pan fo “dwy lywodraeth yn cydweithio”. Ond, mae’r gyllideb wedi sbarduno beirniadaeth hallt ymhlith y gwrthbleidiau. Dywedodd Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, y bydd y cyllid yn “cael effaith ddinistriol yng Nghymru”.

Yn ôl Ben Lake, llefarydd Plaid Cymru ar faterion y trysorlys, “Yn anffodus, mae’r gyllideb yn brin o’r newid trawsnewidiol a addawyd yn ystod yr Etholiad Cyffredinol”, ac ychwanegodd, “does yna fawr o newyddion da i Gymru”. Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru fod y gyllideb yn methu â chynnig gweledigaeth uchelgeisiol i Gymru a fyddai’n nodi buddsoddiad hirdymor yn ei dyfodol.