Yr haf hwn, treuliais i a phum myfyriwr arall o Brifysgol Caerdydd fis ym Mhatagonia, gan aros yn y Gaiman a Threvelin, dau le sy’n gartref i gymuned o siaradwyr Cymraeg. Diolch i ysgoloriaeth y brifysgol, cefais gyfle unigryw i brofi bywyd y Wladfa, dod i nabod y bobl leol a dysgu mwy am y gymuned Gymraeg sydd wedi datblygu ar ochr arall y byd.
O’r eiliad y cyrhaeddon ni yn y Gaiman, cawsom groeso cynnes iawn gan y gymuned Gymreig leol. Er ein bod wedi teithio miloedd o filltiroedd, doedd hi ddim yn cymryd hir i deimlo’n gartrefol. Roedd cynhesrwydd y bobl a’u balchder tuag at yr iaith Gymraeg yn amlwg o’r cychwyn gyntaf. Wrth glywed y Gymraeg o’m cwmpas, teimlais yn llawer agosach at Gymru, gan roi cyfle i mi weld drosof fy hun sut mae’r iaith a’r diwylliant wedi parhau i ffynnu dros y blynyddoedd.
Yn ystod ein hamser yno, cawsmom gyfle i helpu gyda gwersi Cymraeg yn y bedair ysgol Gymraeg: Ysgol yr Hendre, Ysgol y Gaiman, Ysgol y Cwm a Choleg Camwy. Roedd clywed y Gymraeg yn cael ei siarad gan blant ifanc gydag acenion Sbaeneg ar ochr arall y byd yn agoriad llygaid ac yn dyst i ymdrech a brwdfrydedd y gymuned i gadw’r iaith yn fyw.
Un o brofiadau mwyaf diddorol y daith oedd mynychu dosbarthiadau Cymraeg i oedolion. Clywsom straeon am gysylltiadau teuluol â Chymru, am neiniau a theidiau oedd yn siarad Cymraeg, ac am gyfnod pan nad oedd llawer o gyfleoedd i ddysgu’r iaith yn ffurfiol.
Roedd gan bawb eu rhesymau personol dros ddysgu, ac roedd clywed eu hanesion yn gwneud i mi werthfawrogi’r iaith mewn ffordd hollol newydd.
Buom yn lwcus iawn i allu profi Eisteddfod y Bobl Ifanc tra oeddwn yn y Gaiman. Cawsmon ein cynnwys ym mharatoadau yr Eisteddfod gan gymryd rhan mewn ymarferion dawnsio gwerin a chôr. Cynhaliwyd yr Eisteddfod yn ein hail benwythnos, roedd yn ddathliad bywiog yn y Gymraeg a’r Sbaeneg, gyda’r cystadlu’n parhau tan oriau mân y bore! Teithiodd pobl o bob rhan o’r Ariannin i fod yn rhan ohoni.
Wrth gwrs, roedd digon o gyfleoedd i weld tirwedd Patagonia hefyd. O ymweld â Phorth Madryn i weld y morfilod ac Amgueddfa’r Glaniad, i dreulio amser ym Mharc Cenedlaethol Los Alerces ger Trevelin. Roedd pob profiad yn cynnig rhywbeth gwahanol.
Cyn teithio i’r Wladfa, doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl o ran sefyllfa’r Gymraeg ym Mhatagonia. Ond, cefais fy synnu gan frwdfrydedd y bobl a’u hymroddiad tuag at yr iaith. Mae cymaint o bobl wedi ymroi eu bywydau at sicrhau bod y Gymraeg yn dal i gael ei defnyddio, ei siarad, a’i gwerthfawrogi yno.
Mae’n amhosib crynhoi pedair wythnos mor arbennig mewn ychydig gannoedd o eiriau. Ond un peth sy’n sicr, rwyf wedi dychwelyd i Gymru gyda gwerthfawrogiad newydd o’r iaith, ac o’r bobl sy’n gweithio i sicrhau ei dyfodol. Nid hanes y gorffennol yn unig yw’r Gymraeg yn y Wladfa, ond iaith sy’n parhau i gael ei dysgu, ei thrysori a’i dathlu.

