Daw Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig i Gaerdydd i asesu ymateb Llywodraeth Cymru i’r pandemig rhwng y 27ain o Chwefror a’r 14eg o Fawrth. Ar hyn o bryd, mae’r ymchwiliad yng Nghaeredin yn craffu ar ymateb Llywodraeth yr Alban i’r pandemig. O ganlyniad, gorchuddiwyd papurau newyddion ar draws Prydain yn ddiweddar gan gyfuniad o benawdau chwerthinllyd a rhai eithriadol ddifrifol.

Credaf fod yr hyn a welwyd yn yr Alban yn arwyddocaol iawn i ni yng Nghymru am fod gan Lywodraeth Cymru gwestiynau difrifol i’w hateb. Un o’r datguddiadau mwyaf trawiadol oedd rhai o negeseuon WhatsApp Nicola Sturgeon a gyfeiriodd at Boris Johnson fel ‘**ing clown’ a dywedodd fod ei weithredoedd a’i gyhoeddiadau yn ystod y pandemig yn ‘**ing excruciating’. Yn anffodus, nid yw’r fath gyhuddiadau am Boris Johnson yn syndod mawr i unrhyw un sy’n gyfarwydd â helyntion y cyn-Brif Weinidog, neu wleidyddiaeth Prydain yn fwy cyffredinol.

Er hyn, y tu hwnt i’r cweryla a all ymddangos yn ddifyr, dylem yma yng Nghymru bryderu’n fawr am oblygiadau negyddol perthynas ddiffygiol rhwng llywodraethau’r Deyrnas Unedig. Pennawd arall yn ddiweddar oedd dagrau Nicola Sturgeon, menyw a fu’n hollol gadarn a dianwadal drwy ei gyrfa wleidyddol, wrth iddi ddatgan y bu farw ‘gormod’ o bobl yn y pandemig, er iddi honni y ceisiodd ei gorau glas i atal hynny. Cyhuddwyd Nicola Sturgeon o droi Covid-19 yn fater gwleidyddol er mwyn hyrwyddo annibyniaeth i’r Alban.

Gwrthodwyd y cyhuddiad yn chwyrn ganddi. Yr oedd yr ymchwiliad yn heriol iawn i Lywodraeth yr Alban, fel y bu i Lywodraeth San Steffan hefyd, ac mae’r honiadau o ddileu negeseuon ac ymateb yn rhy hwyr ac yn aneffeithlon yn broblemau y bydd yn rhaid eu hatal rhag digwydd eto. Y mae gweld bai ar unigolion wedi i’r pandemig orffen yn hawdd, ond nod Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig yw canfod atebion i’r dioddefwyr a gwella’r ymateb i bandemig arall yn y dyfodol.

Rhaid i ninnau yng Nghymru fynnu gwell gan ein gwleidyddion a’u bod yn cydweithio er ein lles ni. Yr wyf o’r farn y bydd ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymchwiliad yn ddadlennol iawn a dylem beidio â’i ddiystyru’n achos cyfreithiol diflas oherwydd bydd ei ôl-effeithiau a’i ganlyniadau’n bellgyrhaeddol.