Mae hon yn ddadl flynyddol - ai dyma’r amser i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl y banc? Er bod gorymdeithiau, perfformiadau a dathliadau ledled Cymru ar Fawrth 1af, nid yw’r diwrnod yn cael ei gydnabod yn swyddogol fel gŵyl y banc. O gymharu â gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig, mae’n ymddangos ein bod ni ar ein colled.
Yn yr Alban, mae Dydd San Andreas eisoes yn ŵyl banc, ac mae gan Ogledd Iwerddon ddwy ŵyl ychwanegol - Dydd San Padrig a Brwydr y Boyne. Yn Iwerddon, mae Dydd San Padrig yn ddiwrnod o ddathlu, sydd hefyd yn codi proffil y wlad yn rhyngwladol. Onid yw Cymru yn haeddu’r un gydnabyddiaeth?
Mae dadleuon cryfion dros weithredu ar y newid hwn. Byddai’n gyfle i gryfhau hunaniaeth genedlaethol Cymru, gan gynnig diwrnod penodol i ddathlu ein diwylliant a’n hanes. O safbwynt economaidd, gallai gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc ddenu mwy o dwristiaeth a chynnig hwb i fusnesau lleol. Fel y dywedodd Darren Millar AS, byddai gŵyl cyhoeddus yn cynnig “hwb i dwristiaeth, ac yn rhoi cyfle i adlewyrchu ar arwyddocâd ac ystyr Cymreictod”.
Mae cefnogaeth i’r syniad yn tyfu. Yn ôl arolygon barn, mae mwyafrif o bobl Cymru o blaid y newid. Yn wir, mae’r syniad wedi ymddangos ym maniffestos Plaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig a’r Democratiaid Rhyddfrydol ers etholiadau’r Cynulliad yn 2011. Yn fwy diweddar, mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi ysgrifennu llythyr at y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer, yn galw am weithrediad.
Serch hynny, nid yw pob plaid yn ystyried hyn yn flaenoriaeth. Gellid cwestiynu pa mor angenrheidiol yw’r newid - wedi’r cyfan, nid yw Dydd San Sior yn Lloegr yn ŵyl banc ychwaith. Fel y dywedodd Liz Saville-Roberts, nid yw peidio a chael gŵyl banc yn “ein hatal rhag dod at ein gilydd i ddathlu”.
Fodd bynnag, mae newid eisoes yn digwydd ar lefel lleol, gyda rhai awdurdodau a busnesau yng Nghymru yn cynnig diwrnod i ffwrdd ar Ddydd Gŵyl Dewi i’w staff. Os yw’r gefnogaeth wleidyddol a chymdeithasol yn parhau i dyfu, ai dim ond mater o amser yw hi cyn i Ddydd Gŵyl Dewi ddod yn ŵyl y banc swyddogol?

