Ledled Cymru, mae amrywiadau yn yr iaith gyda gwahanol ardaloedd yn defnyddio geiriau gwahanol. Er hynny, yn sylfaenol, yr un iaith yw’r Gymraeg a chyda nodau a osodwyd gan lywodraeth Cymru i gynyddu siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rydym wedi gweld cynnydd yn y dathliad o bobl yn defnyddio’r iaith yn amlach. Digwyddiad sy’n bwysig i’r Cymry yw cwpan rygbi’r byd serch hynny, stori sydd wedi dod i’r amlwg o ganlyniad i’r digwyddiad yw diswyddo Llinos Griffin Williams. Cafodd ei diswyddo o’i rôl fel prif swyddog cynnwys s4c, rôl y mae hi wedi bod ynddi ers mis Ebrill diwethaf. Cafodd uwch bennaeth y darlledwr Cymraeg s4c ei ddiswyddo ar ôl honiadau o sylwadau amhriodol am Mike Phillips. Dellir bod Llinos Griffin-Williams wedi dweud nad oedd Cymraeg y cyn fewnwr o safon ddigon uchel. Mae cyn fewnwr Cymru, Mike Phillips, wedi bod yn rhan o dîm s4c sy’n rhoi sylw i gwpan rygbi’r byd. Mae ei rôl yn cynnwys siarad ar y gemau fel cyflwynydd i Gymru. Mae Phillips, siaradwr Cymraeg iaith gyntaf a enillodd 94 o gapiau dros Gymru, yn dod o deulu ffermio ym Mancyfelin, Sir Gaerfyrddin. Dechreuodd ei yrfa rygbi proffesiynol gyda’r Scarlets ac roedd wedi treulio amser gyda Gleision Caerdydd, y Gweilch, Bayonne a Racing 92 yn Ffrainc. Ar ôl ymddeol o rygbi, symudodd i Dubai ac mae wedi serennu mewn rhaglen ar S4C am ei fywyd yno. Mae adroddiad blynyddol S4C ar gyfer 2022-23 yn rhestru cyflog gros Ms Griffin-Williams fel £124,000 y flwyddyn. Yn ogystal a hyn, yn dilyn y digwyddiad hwn, mae Sian Doyle, prif weithredwr S4C, wedi cael ei harwyddo i ffwrdd o’i gwaith gyda straen ddiwrnod ar ôl ei chynghreiriad agos, Llinos Griffin Williams. Bydd y cyfarwyddwr cynnwys a strategaeth gyhoeddi, Geraint Evans, a’r prif swyddog gweithredu, Elin Morris, yn rhannu cyfrifoldebau yn ystod absenoldeb Ms Doyle. Mae staff wedi cael cais i beidio â chysylltu â Ms Doyle.
er y 27ain o Fedi.

