Croeso nôl i Tarddiad ein Traddodiad, gyda’r rhifyn hwn yn edrych ar ffynhonnell nifer o’r straeon rydym wedi’u trafod eisoes. Yma yng Nghymru, mae nifer fawr o’r chwedlau rydym yn gyfarwydd gyda nhw yn dod o ddarn pwysig iawn o lenyddiaeth, sef y Mabinogi. Felly beth yw’r Mabinogi? O ble mae’n dod, a beth yw ei bwysigrwydd? Mae gymaint o straeon enwog yn dod o’r Mabinogi - dwi’n siŵr eich bod chi wedi clywed o leiaf un ohonyn nhw!

Cyfres o straeon yw’r Mabinogi, wedi’u gosod mewn pedair cainc, a’r straeon i gyd yn gysylltiedig ac yn trafod pob math o bynciau, o wleidyddiaeth, i ramant. Mae’r straeon i gyd yn dal pwysigrwydd i ni fel cenedl. Gan fod rhai o’r enwau enwocaf o fewn ein chwedlau a mytholeg fel Bendigeidfran a Blodeuwedd yn dod yn wreiddiol o’r Mabinogi, mae’n amlwg fod y llenyddiaeth yn bwysig a’n ddylanwadol ar ein hunaniaeth.

Creda rhai bod y straeon sy’n creu’r Mabinogi yn dod yn wreiddiol o’r 12fed i’r 14eg ganrif, gydag ansicrwydd ynghylch pwy eu hysgrifennodd! Mae’r chwedlau wedi’u nodi yn Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Hergest, ond credir bod gan y straeon darddiad llawer hŷn na hyn. Mae haneswyr yn dweud bod y straeon wedi’u pasio lawr trwy’r cenedlaethau wrth i feirdd Celtaidd cynnar eu rhannu nhw er mwyn defnyddio llety dros nos wrth deithio. Gwnaeth y beirdd deithio ar draws Prydain a thu hwnt yn gwneud hyn, ac felly cafodd y straeon eu newid wrth i’r beirdd eu hailadrodd. Oherwydd hyn, mae hi bron yn amhosib gwybod yn union o le ddaeth y straeon yn wreiddiol!

Gwelwyd Mabinogion gan Charlotte Guest, yn cael ei gyhoeddi am y tro cyntaf rhwng 1838 a 1849, wrth i’r pedair cainc gael eu gosod gyda’i gilydd ar ôl i’r llenyddiaeth oroesi am ganrifoedd trwy lyfrgelloedd teuluoedd, gyda dim ond dau o’r darnau llenyddol gwreiddiol wedi goroesi hyd heddiw!

Oherwydd ei bwysigrwydd i’n cenedl, a’r ardrawiad mae’r gwaith wedi cael ar y byd llenyddol – wrth ysbrydoli gwaith fel The Silmarillion gan J.R.R Tolkien, a’r gân ‘Rhiannon gan Fleetwood Mac – mae’n amlwg fod y Mabinogi yn rhan enfawr o’n hunaniaeth. Gydag amrywiaeth o straeon, o’r fytholeg Geltaidd, i’r chwedlau am Arthur a’i farchogion, mae’n amhosib diystyru’r dylanwad mae’r llenyddiaeth wedi cael ar ein gwlad, a hefyd yn fyd eang!