Ar adeg pan fo’r celfyddydau yng Nghymru yn wynebu heriau sylweddol, o bwysau ariannol i ansicrwydd ynghylch y dyfodol, mae lansiad cynhyrchiad cyntaf Theatr Genedlaethol Cymru yn teimlo’n arbennig o arwyddocaol. Ar ddechrau 2025, cymerodd Michael Sheen yr awenau fel cyfarwyddwr creadigol y cwmni, gan nodi pennod newydd i’r sefydliad. Dan ei arweiniad, mae cynhyrchiad cyntaf y Theatr Genedlaethol, Our Town, yn ddatganiad artistig clir ac yn arwydd o obaith i sector greadigol sy’n wynebu pwysau parhaus.
Pennod newydd i Theatr Genedlaethol Cymru Bydd Our Town, drama glasurol gan Thornton Wilder sydd wedi ennill Gwobr Pulitzer, yn cael ei llwyfannu am y tro cyntaf erioed gan gwmni llawn o actorion a thîm creadigol o Gymru. Mae’r penderfyniad hwn yn tanlinellu ymrwymiad y Theatr Genedlaethol i adrodd straeon cyffredinol drwy lens Gymreig, gan eu gwneud yn berthnasol i gynulleidfaoedd ar draws y wlad. Wrth siarad am y cynhyrchiad, dywedodd Michael Sheen: “Mae hwn yn gyfle anhygoel i gyflwyno dehongliad Cymreig o’r clasur sy’n teithio ein cenedl ac yn mynd â’n llais i Lundain, gan roi llwyfan i dalent Cymru berfformio.” Bydd y cynhyrchiad yn teithio i sawl lleoliad ledled Cymru, gan gychwyn yn Abertawe, cyn symud i ymlaen i Venue Cymru yn Llandudno a Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug ddechrau fis Chwefror, cyn gorffen ei daith yn Rose Theatr yn ne-orllewin Llundain.
Yn ogystal â Our Town, mae’r cwmni hefyd wedi cyhoeddi ail gynhyrchiad fel rhan o’r weledigaeth greadigol newydd. Owain & Henry yw drama newydd gan Gary Owen sy’n dychwelyd at wrthryfel Owain Glyndŵr yn y 15fed ganrif, gan archwilio un o straeon mwyaf arwyddocaol Cymru. Bydd Michael Sheen yn portreadu Owain Glyndŵr, Tywysog olaf Cymru, mewn gwrthdaro dramatig â’r Brenin Harri IV.
Mae’r cynhyrchiad wedi cael ei greu ar y cyd â Chanolfan Mileniwm Cymru, a bydd yn cael ei llwyfannu yn Theatr Donald Gordon ym mis Tachwedd 2026, un o’r llwyfannau mwyaf yn Ewrop. Mae’r cynhyrchiad yn tanlinellu’r uchelgais i greu Theatr Gymreig o raddfa fawr sy’n adrodd straeon o hanes cenedlaethol. Wrth sôn am y cynhyrchiad dywedodd Sheen: “Bydd chwarae rhan y tywysog eiconig o Gymru ar un o lwyfannau mwyaf Ewrop, yn ein prifddinas, yn eiliad hollbwysig i ni fel pobl ac fel diwylliant rwy’n gobeithio.
Dyma hanfod y Theatr Genedlaethol Cymru.”

