Cyhoeddwyd ychydig wythnosau yn ôl gan drefnwyr un o gystadlaethau beicio mwyaf adnabyddus y byd, y bydd rhan o lwybr ras Tour de France 2027 yn teithio drwy Gymru am y tro cyntaf erioed. Ar y 4ydd o Orffennaf, bydd y trydydd Cymal - y cymal olaf, yn dechrau. Yn teithio o Gastell Powis (Y Trallwng) i Gaerdydd, a dilyn llwybr trwy ganolbarth Cymru, gan gynnwys ardaloedd fel Llandrindod, Llanelwedd, Aberhonddu, Merthyr Tydfil a Chaerffili.
Dyma foment hanesyddol i’n gwlad, ac yn bendant yn foment i’w drysori. Yn ôl Wales.com, “Dyma fydd y digwyddiad chwaraeon mwyaf erioed i’w wylio am ddim a gynhelir yn y DU”, gan roi cyfle gwych i’r economi, busnesau lleol a thwristiaeth. Bydd hefyd yn gyfle i arddangos rhai o’n tirluniau mwyaf trawiadol, ynghyd â diwylliannau’r wlad a’r iaith, ac yn ffordd o ymestyn gorwelion beicio Cymru i gynulleidfa eang.
Nid mewn person yn unig fydd modd gwylio’r Tour de France, mae biliynau o gefnogwyr o dros 100 o wledydd gwahanol am fod yn ei ddilyn ar y teledu. Bydd Cymru felly a’r lwyfan byd-eang. Un o arwyr chwaraeon Cymru a’r DU, ydy Geraint Thomas, OBE, y Cymro cyntaf i ennill y gystadleuaeth nôl yn 2018.
Mae ef eisoes wedi cystadlu mewn 4 gemau Olympaidd, ac ennill dwy fedal aur, ac wedi ennill 4 medal aur a 2 arian yng nghystadleuaeth pencampwriaethau’r byd dros y blynyddoedd. Mae ei angerdd, ei waith caled a’i falchder tuag at gynrychioli Cymru yn golygu ei fod yn gwbl haeddiannol i gael bod yn ‘Lysgennad beicio Cymru’ ar gyfer y gystadleuaeth flwyddyn nesaf. Dywedodd Thomas, “Alla i ddim aros i chwarae fy rhan yn croesawu’r Tour, ysbrydoli beicwyr hen ac ifanc, a helpu i wneud hyn yn foment na fydd Cymru byth yn ei anghofio”.
Mi fydd yn gweithio’n agos gyda chorff ‘Croeso Cymru’, gyda’r bwriad o hyrwyddo’r wlad, ac nid anodd fydd hyn chwaith yn ôl Thomas a fynegodd fod holl “ffyrdd a dringfeydd” sy’n amgylchu mynyddoedd Cymru, “wedi’u gwneud ar gyfer beicio”. Eluned Morgan gyhoeddodd fanylion y daith yng nghwmni Geraint Thomas, gan gyfeirio at y digwyddiad fel “dathliad a chyfle i ni arddangos ein cenedl”, ac yn ffyddiog y bydd yn llwyddo i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf. Os ydych chi’n beicio’ch hun, gwylio rasys seiclo ar y teledu neu mewn person, neu heb ddim diddordeb o gwbl yn y gamp, dyma’n bendant gystadleuaeth fydd yn dwyn eich diddordeb chi, a phawb arall yng Nghymru.
Ewch i gefnogi a gwneud y mwyaf o’r cyfle euraidd hwn, ac efallai mai chi fydd yn gwisgo crys Melyn mewn ychydig o flynyddoedd i ddod! Image, Paul Hudson, via Wikimedia
