Ar ddydd Iau, 13eg o Dachwedd, fe ddawnsiodd cyflwynwyr poblogaidd BBC Radio Cymru am 24 awr yn ddi-dor er mwyn codi arian tuag at elusen Plant Mewn Angen. Daeth y 24 awr i ben ar eu rhaglen radio, fore Gwener y 14eg o Dachwedd am 11yb. Mae rhaglen radio Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford ymhlith y rhaglenni mwyaf poblogaidd yn arlwy BBC Radio Cymru.

Roedd y cyfan yn cael ei ffrydio’n fyw ar BBC iPlayer ac S4C Clic yn ogystal â BBC Radio Cymru 2, fel nad oedd neb adre’ yn colli munud o’r 24 awr. Nod yr her 24 awr hwn oedd codi arian i elusen Plant Mewn Angen yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r elusen. Fe ymunodd wynebau cyfarwydd gyda’r pâr ar hyd y 24 awr, gan gynnwys Caryl Parry Jones, Huw Stephens, Non Parry a Rachel Solomon.

Roedd cyflwynwyr eraill BBC Radio Cymru hefyd yno i’w cefnogi, gydag Ifan Jones Evans a Shân Cothi yn galw heibio i leihau’r baich. Fe wnaeth enwogion lu ddanfon eu dymuniadau gorau i’r double-act hoffus, drwy fideos a gafodd eu dangos drwy gydol y dawnsathon, gan gynnwys Tess Daly a Claudia Winkleman, cyflwynwyr Strictly Come Dancing. Ymunodd corau, aelwydydd, ysgolion, grŵpiau a chymdeithasau gyda’r ddau, i helpu gyda’r dawnsio.

Teg dweud nad oedd ‘na un llygedyn sych pan ddaeth teuluoedd Emma a Trystan i ymuno â nhw ac roedd hynny’n tanlinellu yr holl ymroddiad. Fe ‘sgwennodd yr Archdderwydd a’r Prifardd, Mererid Hopwood, englyn i’r ddauac fe lethodd hynny’r cyflwynwyr, â’r ddau dan deimlad wrth glywed y geiriau o gefnogaeth mewn barddoniaeth. Roedd hi’n bosib hefyd i’r gwylwyr adre’ ymuno yn yr hwyl wrth ddawnsio’r macarena gyda’r criw, ar yr awr, drwy’r dydd a drwy’r nos.

Roedd yr her yn rhan o ymgyrch flynyddol y BBC i godi arian tuag at Blant Mewn Angen. Fuoch chi’n dawnsio gyda nhw?