Ar y 7fed o Fai eleni, bydd gan y cyhoedd gyfle i bleidleisio dros Lywodraeth nesaf Cymru. Dyma fydd yr Etholiad Seneddol cyntaf o’i math, gyda llawer o newidiadau i’r drefn ers yr un diwethaf yn 2021. O hyn ymlaen bydd 16 etholaeth mewn etholiadau Llywodraeth Cymru, a bydd chwe aelod Seneddol yn cael eu hethol i gynrychioli pob un ohonynt.

Bydd hynny’n ffurfio Senedd o 96 aelod – cynnydd sylweddol o’r 60 aelod presennol. Byddant hefyd yn cael eu hethol drwy system bleidleisio newydd, sef y system rhestr gyfrannol gaeedig, sy’n golygu mai pleidleisio dros blaid wleidyddol yn hytrach nag unigolyn bydd pleidleiswyr yn ei wneud. Ers dechreuad datganoli yng Nghymru y Blaid Lafur sydd wedi bod mewn grym, ond am y tro cyntaf eleni mae disgwyl newid mawr gyda’r arolygon barn diweddaraf yn rhoi Plaid Cymru ar y blaen o ran bwriadau pleidleisio’r cyhoedd, a Reform UK yn agos ar eu hôl.

Beth mae myfyrwyr am ei weld? Wrth i’r dyddiad pleidleisio agosáu, mae myfyrwyr y Brifysgol wedi bod yn ystyried beth yr hoffen nhw ei weld gan y Llywodraeth newydd. Dywedodd Owain Siôn, myfyriwr yn ei drydedd flwyddyn, “Fel person ifanc sydd eisiau byw yng Nghymru ar ôl graddio, byddwn i’n gwerthfawrogi pe byddai’r llywodraeth yn rhoi mwy o sylw i reoleiddio’r farchnad dai.

Rhwng rent anfforddiadwy mewn dinasoedd, a cael ein prisio allan o’r farchnad nôl adref, mae pobl ifanc yn cael eu cymryd yn ganiataol pan mae’n dod i ffeindio tŷ yng Nghymru.” Yn debyg, dywedodd Efa Jones, myfyrwraig yn ei hail flwyddyn, “Hoffwn i weld y Llywodraeth nesaf yn blaenoriaethu costau byw, tai fforddiadwy ac iechyd meddwl. Mae’r pwysau ariannol ar fyfyrwyr a phobl ifanc yn enfawr ar hyn o bryd, ac mae hynny’n cael effaith uniongyrchol ar les a chyfleoedd pobl. Hefyd, mae buddsoddi mewn addysg a sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chefnogi’n ymarferol ym mhob rhan o fywyd cyhoeddus yn hynod bwysig i ddyfodol Cymru.” Hefyd yn fyfyrwraig yn ei hail flwyddyn, mae Betsan Griffiths yn galw am “fwy o gyfleoedd i bobl ifanc a graddedigion yng Nghymru, fel swyddi da a hyfforddiant, fel bod pobl ddim yn teimlo bod rhaid symud i ffwrdd i gael dyfodol.

Mae hefyd angen gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn enwedig y tu allan i’r dinasoedd, er mwyn gwneud bywyd yng Nghymru’n fwy hygyrch a chynaliadwy.” Y misoedd tyngedfennol o’n blaenau Bydd y misoedd nesaf o ymgyrchu yn allweddol ar gyfer y canlyniadau’r etholiad. Dywedodd Owain, “Mae wir angen i bleidiau roi’r gorau i drîn yr etholiad hwn fel ‘midterm’ ar gyfer San Steffan. Pwy bynnag fydd yn arwain y llywodraeth nesaf, mi fydd ganddynt gyfrifoldeb dros gymaint o faterion sydd yn effeithio bywyd dydd-i-ddydd pobl Cymru.

Siomedig felly yw gweld gymaint ohonynt yn methu trafod polisi yn glir, neu’n trîn yr etholiad fel refferendwm ar boblogrwydd Keir Starmer.” Hoffai Efa a Betsan weld cyfathrebu cliriach gan wleidyddion. Eglurodd Efa, “Byddai llai o sloganau gwag yn helpu pobl i deimlo bod gwleidyddiaeth yn berthnasol i’w bywydau bob dydd, ac efallai’n annog mwy o bobl ifanc i gymryd rhan yn yr etholiad a pleidleisio”. Yn ôl Betsan, “Weithiau mae addewidion yn teimlo’n bell o realiti pobl ifanc, felly byddai mwy o onestrwydd a llai o or-werthu’n helpu i ailadeiladu ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth.” Mae hon yn sicr yn etholiad â’r potensial i newid trywydd gwleidyddiaeth Cymru yn llwyr, ac amser yn unig a ddengys beth yw’r dyfodol honno.