O’r diwedd mae’r cadeiriau coch byd enwog wedi cyrraedd ein sgriniau teledu yng Nghymru, sef rhaglen Y Llais sydd yn cael ei hadnabod fel The Voice, gyda’r 75ain fersiwn wedi cael ei gynhyrchu gan Boom Cymru a’i ddarlledu ar S4C a hynny drwy’r Gymraeg! Heb os, credaf fod hyn yn rhoi diwydiant darlledu a cherddoriaeth Gymraeg mewn goleuni byd-eang gan dorri tir newydd ym myd cyfryngau Cymru.
Roedd y bennod gyntaf yn llwyddiant ysgubol, gydag wyth pennod o’n blaenau i’n diddanu’n llwyr gyda lleisiau hynod unigryw o bob cwr o Gymru. Nid ar chwarae bach mae mynd ati i greu rhaglen mor heriol sydd eisoes gydag enw da, felly roedd yn rhaid dod o hyd i hyfforddwyr profiadol a oedd yn gallu darparu’r profiad llawn ar gyfer y cystadleuwyr. Sicrhawyd y nod hwn gyda’r bas Bryn Terfel, sydd wedi canu ar lwyfannau mwyaf eiconig y byd opera dros y 30 mlynedd diwethaf gan ennill ‘Grammys’, ‘Classical Brit Awards’ a gwobr ‘Gramophone’, sydd wir yn rhoi safon i’r gyfres. Un o’r rhai eraill yn eu plith yw’r canwr pop Yws Gwynedd sydd yn berchen ar label recordiau Cosh a ddisgrifiodd y profiad fel “sioc enfawr” i glywed “talent anhygoel”. Hefyd cawn y seren ‘reggae’ Aleighcia Scott ac yn olaf y cyn-gystadleuydd ar raglen Saesneg The Voice a’r gyfansoddwraig Bronwen Lewis.
Yn sicr, nid yw hi’n hawdd iawn cynhyrchu a darlledu rhaglen hollol newydd ar gyfer cynulleidfa S4C, ond mae cyflwynydd Y Llais sydd hefyd yn DJ ar BBC Radio 1, Sian Eleri, yn gweld yr angen ar gyfer y math hwn o gyfres yng Nghymru. Dywedodd: “Ry’ ni’n falch iawn i fedru dod â fformat sydd mor llwyddiannus yn fyd eang i Gymru. Wrth i ni anelu i ddenu cynulleidfa amrywiol, bydd Y Llais yn dipyn o sioe fydd yn apelio yn eang.” Credaf fod Sian Eleri yn allweddol i’r Llais gan ei bod yn apelio tuag at do hollol newydd gan ddenu cynulleidfa a chystadleuwyr sy’n cael eu croesawu i gerddoria - eth Gymraeg am y tro cyntaf erioed. Er hyn, roedd y defnydd o’r Saesneg ar y rhaglen yn sicr yn bwnc llosg ar y cyfryngau gan i rai beio’r rhaglen am beidio ei gwneud hi’n rhaglen hollol Gymreig, gyda’r hyfforddwraig Aleighcia Scott yn ddysgwraig a hefyd gan i rai cystadleuwyr beidio siarad Cymraeg. Ond bydd rhai yn canmol y rhaglen gan ddweud ei bod yn gynhwysol i bawb. Dywedodd un person: “Rwy’n deall bydd rhai yn sôn am gormod o Saesneg, ond dwi’n credu odd e’n wych ac yn hynod o groesawgar i unrhywun sydd yn dysgu/moen dysgu a gweld bod hi’n bosib. Mae fy mhartner yn dysgu a roedd y rhaglen wedi rhoi hyder iddi wrth weld y wahanol lefelau o’r iaith mewn un rhaglen ac dwi’n credu dyna sut mae denu a hybu pobl i’r Gymraeg.”
Heb os mae’r rhaglen yma wedi lledaenu cynulleidfa S4C gan roi Cymru ar y map. Edrychaf ymlaen tuag at y bennod nesaf, cofiwch allwch wylio ar S4C, BBC Iplayer a S4C Clic.

