Un o swyddogaethau coed ydy amsugno carbon o’r aer a glanhau’r aer cyn i bobl fewnanadlu.
Mae gofyniad Llywodraeth Cymru yn rhan o Gynllun Ffermio Cynaliadwy yn datgan fod angen i ffermydd sicrhau fod 10% o’u tir wedi’i blannu â choed.
Mae’r rheol newydd yma wedi creu bwrlwm ym maes amaethyddol Cymru.
Erbyn 2030 mae disgwyl i ffermwyr gydymff urfi o os ydyw yn berthnasol lle mae amodau’r tir yn caniatáu plannu coed.
Dywedodd Caryl Price, ffarmwraig o Myddfai yn Sir Gaerfyrddin, bod rhai ffermydd Cymru yn gallu fforddio plannu ar 10% o dir oherwydd bod ganddyn nhw dir heb ei thrin.
Ychwanegodd ‘realiti’r sefyllfa yw bod llawer o ffermwyr o dan y rheol newydd yn mynd i orfod plannu coed ar ddaear sydd yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu bwyd neu fwyd anifeiliaid am bris annigonol’.
Mae llawer o ffermwyr yn gwrthwynebu’r cynllun ac agwedd y Llywodraeth tuag at amaethyddiaeth, ac yn honni eu bod nhw am golli llawer o arian ar ôl gweithio’n galed.
Mi wnaeth dros 3,000 o ffermwyr Cymru ddod at ei gilydd mewn cyfarfod angerddol ar faes y sioe yng Nghaerfyrddin ar yr 8fed o Fawrth, ac roedd Caryl Price a’i theulu ymysg y dorf.
Nododd Caryl Price ‘mae’n bwysig i ffermwyr Cymru i dynnu at ei gilydd dim ots beth yw eu sefyllfa bersonol nhw a gwneud y gorau i’r mudiad sef diddymu’r rheoliadau byrbwyll’.
Bellter o gefn-gwlad Sir Gâr, cynhaliwyd COP28 ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2023 yn Dubai lle ddaeth gweinidogion, gweithredwyr hinsawdd, prif weithredwyr o sawl gwlad yn dod at ei gilydd i drafod gweithredu newid hinsawdd yn rhan o’r cyfarfod blynyddol mwyaf.
Roeddent yn edrych ar wahanol agweddau sy’n effeithio ar yr amgylchedd wrth geisio darganfod ffyrdd o leihau eu heffaith ar gyfer dyfodol gwyrddach.
Roedd Mudiad Coed Rhyngwladol yn gobeithio y byddai’r Gynhadledd yn trafod plannu coed.
Cydnabyddodd Llywodraeth San Steffan fod plannu coed am helpu’r blaned yn sgil cynhesu byd-eang.
Y prif ganfyddiadau oedd cynhyrchu mwy o dechnolegau sy’n rhyddhau dim a sero o allyriannau carbon.
Nodwyd fod perygl o green rush pan fydd cwmnïau a llywodraethau yn cael eu gwthio i blannu coed ond yn rhan o gynlluniau nad oedd yn fuddiol i’r amgylchedd na’r bobl.
Cafodd cymuned yn Kenya eu gwthio allan o’u cynefin oherwydd bod ffermio coedwigoedd carbon yn digwydd dan ofal y Llywodraeth.
Yn 2023 mi wnaeth Llywodraeth Cymru rhoi’r gorau i gynllun Plant! a oedd yn sicrhau fod coeden yn cael ei phlannu bob tro fyddai plentyn yn cael ei fabwysiadu ers 2008.
Cafodd dros 540,000 o goed eu plannu ac mae bellach dros 240 hectar o goetir newydd wedi’i greu ar draws 15 o goedwigoedd.
Ar y 28ain o Chwefror, ymgasglodd miloedd o ffermwyr Cymru tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd er mwyn protestio i ddangos ei gwrthwynebiad yn erbyn cynlluniau cymhorthdal arfaethedig Llywodraeth Cymru.
Roedd Hafwen Davies, un o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sydd yn wreiddiol o ff erm yn Llanwenog, Ceredigion yno.
Dywedodd “er nad oes bwriad gennyf i ddilyn gyrfa o fewn y sector Amaeth, fel merch ff erm, rwy’n teimlo cyfrifoldeb i fod yn rhan o’r protestiadau”.
Nododd hefyd fod “teimlad eitha’ emosiynol i weld ystod mor eang o oedrannau yno. O’r hen i’r ifanc. Mae’n dangos bod gymaint yn ofni effaith y polisïau hurt ar ddyfodol ffermio” Bydd yr ymgynghoriad ar gyfer y Cynllun Ffermio cynaliadwy yn dod i derfyn ar y 7fed o Fawrth.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n “disgwyl i newidiadau gael eu gwneud yn dilyn yr ymgynghoriad, a byddwn yn parhau i wrando.”
