Mae pryderon wedi codi ymhlith pobl ifanc cefn gwlad Cymru, yn enwedig ffermwyr ynysig sydd yn dioddef o iechyd meddwl difrifol. Mewn cyfweliad gyda Ben Lake, cynrychiolydd materion gwledig Plaid Cymru yn San Steffan, datgelodd fod iechyd meddwl yr ifanc ar eu gwaethaf ers Cofid-19.
Yr her fwyaf wynebau unigolion ynysig cefn gwlad dywedai Ben Lake yw’r syniad o gael i’w “derbyn mewn i’r gymdeithas.” Mae hyn yn her sydd yn cael i’w weld yn ofidus oherwydd y pwysau y mae cyfryngau cymdeithasol yn creu i “efelychu’r bywyd perffaith a’r ffordd ffals o fyw”.
Niferoedd Hunanladdiad Cymru a Loegr – ‘2 person yr wythnos ac mae hynna’n frawychus’
Mae ffigur diwethaf cyn cofid o hunanladdiad yng Nghymru a Loegr (2019) yn 102 o farwolaethau. Roedd Ben Lake yn rhannu ei ofidion ac yn arddagnos pryder am y nifer penodol yng Ngheredigion:
“Dwi’n ymwybydol mae ffigwr blynyddol yw e, ond os chi meddwl amdano fe 2 person yr wythnos... ac mae hynna’n eithaf brawychus. Mae Ceredigion ymhlith y gwaethaf o hunanladdiad o ran pen poblogaeth yng Nghymru.”
Pwy sydd yna I Helpu?
Mae diffyg cyfleusterau ar gyfer ffermwyr ifanc yn y cefn gwlad yn ffactor allweddol at y sefyllfa fregus. Nid oes yna unrhyw ffynonellau uniongyrchol oddi wrth y Llywodraeth wedi targedu at weithwyr ifanc ynysig yng Nghefn gwlad Cymru. Nid yw’r ffynonellau trwy’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus yn apelgar at nifer o’r Cefn gwlad gan fod trwch y boblogaeth cefn gwlad am drafod materion dwys trwy’r Gymraeg, ac nid yw’r gwasanaeth hynny’n hawdd darganfod. Y gefnogaeth fwyaf addas ar gyfer gweithwyr ynysig yw’r elusennau sydd wedi rhedeg gan wirfoddolwyr.
Mae Tir Dewi wedi cymryd y rôl allweddol o ofalu am iechyd meddyliol amaethwyr yng Nghymru, a gychwynnodd gan wirfoddolwyr y de orllewin yn 2015. Heb yr 80 o wirfoddolwyr ar draws Gymru ni fyddai cyrraedd ffermwyr y wlad yr un mor hawdd.
Yn ogystal mae elusen y DPJ a sefydlodd er cof am Daniel Picton-Jones a fu farw yn 2016 yn credu’n gryf yn y dywediad “atal nid gwella”. Sydd yn adlewyrchu’r pwysigrwydd o dargedu gweithwyr ynysig yng Nghymru.
Gellir ffeindio wybodaeth am yr elusennau yma ar lein ar eu gwefannau. Ond nid yw hyn yn ddigonol i sicrhau sefydlogrwydd iechyd meddwl gweithwyr ynysig Cymru. Y camau gweithredol nesaf byddai cefnogaeth neu weledigaeth gan y Llywodraeth, fel y dwedai Ben Lake:
“Mae elusennau tebyg i Tir Dewi a DPJ wedi ennill ymddiriedaeth cymunedoedd gwledig. Y cam nesaf gan y Llywodraeth yw i adeiladu bant o’r elusennau hynny, yn hytrach na creu sefydliad newydd i gystadlu gyda nhw.”
Yr argraff fod y cenhedlaeth ifanc a ffermwyr yn enwedig, yn anobeithio am y dyfodol.

