Mae blwyddyn academaidd arall wedi dod i ben, sydd hefyd yn golygu fod fy nghyfnod i fel golygydd Gair Rhydd hefyd wedi dod i ben. Mae’n teimlo fel ddoe ac oes ers i mi dderbyn y rôl, yn gyffroes ond nerfus am beth fuasai’r flwyddyn nesaf yn dod.
Gydag wyth papur newydd ac un rhifyn arbennig Varsity, mae wedi bod yn fraint fod yn olygydd Gair Rhydd. O ddathlu ein pen-blwydd yn 50 i ohebu o wobrau BAFTA Cymru, mae’r tîm wedi trio eu gorau i ddogfennu popeth sydd wedi digwydd yn y brif ddinas ac thu-hwnt. Dwi’n sicr wedi cael llawer o brofiadau cyntaf, o redeg o amgylch Caerdydd I ddosbarthu’r rhifyn diweddaraf i ysgrifennu fy erthygl chwaraeon gyntaf (a mwyaf tebygol olaf ). Rwyf wedi dysgu gymaint drwy gydol y broses, yn ogystal â phawb rwyf wedi cyfarfod ar y siwrne.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, credaf fy mod wedi teimlo bob emosiwn bosib. Allai ddim gwadu fod o wastad wedi bod yn hawdd, ceisio cadw at derfynau amser wrth ddelio a phroblemau technegol sydd wastad yn digwydd ar yr amseroedd gwaethaf. Ond, mae straen yr wythnos gynt yn diflannu’n syth pan ddwi’n gafael y rhifyn diweddaraf o Gair Rhydd, wedi ei llenwi gydag erthyglau gwych gan fyfyrwyr yn astudio cyrsiau gwahanol ar draws y brifysgol. Roedd cael ein hadnabod am ein gwaith called drwy ennill Papur Gorau Cymru yng ngwobrau’r SPA yn sicr yn uchafbwynt i mi.
Hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch yn fawr i’r tîm golygyddol arbennig. Fuaswn wedi bod ar goll heb bob un ohonoch. O benaethiaid adrannau i’r timau digidol a chyfryngau cymdeithasol, buasai Gair Rhydd ddim yn bodoli heb gyd-weithio rhwng cymaint o fyfyrwyr talentog ac angerddol. Roedd y noson gwobrwyau gwirfoddoli, cymdeithasau a chyfryngau yn gyfle perffaith i ddod at ein gilydd ac i ddathlu popeth sydd wedi ei gyflawni ar draws holl blatfformau cyfryngau myfyrwyr.
Hoffwn hefyd dangos fy niolchgarwch i’n cyfranwyr, sydd yn ysgrifennu erthyglau meddylgar sydd yn uchel safbwyntiau a diddordebau amrywiol myfyrwyr y brifysgol bob wythnos. Yn olaf, diolch i chi, ein darllenwyr. Diolch am bigo fyny copïau o ein papur a chefnogi ein gwaith. Mae wirioneddol yn golygu’r byd i ni.
Mae’n rhyfedd i roi’r awenau i rewyn arall, gan iddo nodi diwedd fy nhair blynedd fythgofiadwy ym Mhrifysgol Caerdydd. Ond, rwyf yn gwybod fod y papur mewn dwylo diogel gyda’r prif olygydd nesaf, Edward Sutton. O gyfrannwr i olygydd newyddion i brif olygydd, dwi’n edrych ymlaen am fy rôl newydd fel darllenwr brwdfrydig Gair Rhydd.

