Gydag etholiad Seneddol 2026 ar y gorwel, mae nifer o’r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru wedi troi at ddefnyddio platfformau cymdeithasol i geisio cyrraedd pobl ifanc. Mae Reform UK, yn benodol, eisoes yn adnabyddus am lwyddiant eu cynnwys i ddenu cefnogwyr ar blatfformau fel TikTok ac Instagram.

Er hyn, dros y misoedd diwethaf, bu hefyd twf yn y cynnwys gwleidyddol di-duedd ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda chyfrifon fel Hansh Dim Sbin a Senedd Explained yn blaenoriaethu esbonio’r sefyllfa wleidyddol yng Nghymru mewn ffordd mor syml, a hygyrch â phosib.

Hansh Dim Sbin

Mae cyfrif Hansh Dim Sbin wedi dechrau cyfres newydd ar TikTok ac Instagram yn cyfri’r dyddiau tan yr etholiad. Yn y gyfres, mae Caitlin Lovell yn ateb cwestiynau cyffredin am gyfrifoldebau’r Senedd, a’r etholiad sydd i ddod, wrth wneud tasgau dyddiol fel gwisgo colur, a choginio wyau. Yn ôl Caitlin, pwrpas cyflwyno’r wybodaeth mewn ffordd mor anffurfiol yw i “neud e mor apelgar â phosib.”

“O’n i’n trio neud i’r cynnwys ffitio mewn da’r stwff fi’n gweld ar feed fi, cynnwys sydd ddim yn gysylltiedig o gwbl â gwleidyddiaeth, a wedyn ffeindio ffordd o weu’r gwleidyddiaeth mewn i hwnna.”

Dywedodd Caitlin mai ei phrif flaenoriaeth yw “apelio at y bobl sydd ddim yn gwybod bod ’na etholiad” mewn ffordd sydd “ddim yn rhy patronising.”

“Fi rili ddim eisiau pregethu o gwbl, fi jyst yn trial addysgu pobl yn subtle, heb wthio fe i’w gwynebau nhw.”

“Hefyd, dwi’n dysgu ar yr un pryd. Mae ’na gymaint o bethau dwi ddim yn gwybod, a dwi’n dysgu wrth i fi fynd, felly fi’n teimlo fel fi jyst yn rhannu be fi’n dysgu. Os dwi’n dysgu un person am etholiad y senedd, fi ’di neud job fi.”

Senedd Explained

Mae cyfrif Senedd Explained hefyd yn cyflwyno gwybodaeth wleidyddol ar instagram a tiktok, yn bennaf trwy ddefnyddio flogiau, memes, ac ‘explainers.’

Yn ôl Maddy Dhesi, sy’n rhedeg y cyfrif, “Gall newyddion am y senedd, a gwleidyddiaeth Gymraeg swnio’n eithaf exclusive, a bach yn sych. Ni’n trial mynd yn erbyn hwnna wrth gyflwyno’r cynnwys mewn ffordd mor ysgafn a syml â phosib.”

Dywedodd mai’r math o gynnwys sy’n denu’r mwyaf o sylw yw cynnwys sy’n ‘trendio,’ fel fideo yn rhagfynegi pa bleidiau fyddai cymeriadau o Gavin and Stacey yn pleidleisio drostynt yn etholiad y senedd.

“Pan es i gynhadledd Plaid Cymru, daeth llawer o bobl ata i yn dweud ‘fi’n dy nabod di, fi wrth fy modd â’r gwaith, mae e mor, mor ddefnyddiol.’”

Mae Fflur James, myfyriwr Blwyddyn 3, yn credu ei bod hi’n bwysig buddsoddi mwy yn y math hwn o gynnwys, am mai “dyna’r ffordd hawsaf o neud gwleidyddiaeth yn fwy cyraeddadwy i gynulleidfa fwy.”

Mae arolwg ddiweddar yn awgrymu bod 42% o bobl rhwng 16 a 30 oed yn dibynnu ar y cyfryngau cymdeithasol am newyddion am wleidyddiaeth, a materion cymdeithasol eraill.

“Yn aml, mae gwleidyddiaeth yn cael ei weld fel rhywbeth elite, ond mae cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos bod gwleidyddiaeth yn gallu bod at ddant pawb.”

Creda Fflur ei bod hi’n bwysig sicrhau fod gan bawb fynediad at wybodaeth wleidyddol ddibynadwy, yn enwedig yn yr oes sydd ohoni, gyda’r tirlun gwleidyddol yng Nghymru o bosib ar fin newid yn llwyr.