Am chwip o gyfres! Mae hi wedi bod mor braf gweld S4C yn camu ar drywydd mwy mentrus yn ddiweddar, gyda chyfresi newydd yn hawlio sgyrsiau rhwng ffrindiau ac mewn sgyrsiau swyddfeydd gyda’r boreau, ac am wn i, dyma ddangos llwyddiant cyfres newydd, fel Amour a Mynydd.
Mae rhai wedi bedyddio’r gyfres hon fel y ‘Love Island’ Cymraeg, ond efallai bod ychydig mwy o swmp i’r gyfres hon, buaswn i’n dadlau! Wedi’i leoli yn yr Alpau Ffrengig gydag Elin Fflur yn cyflwyno, does fawr o syndod fod y gyfres hon wedi apelio at Gymry ym mhob man. Yn y gyfres-pedair-pennod hon, fe ddaeth 8 o Gymry at ei gilydd, o bob cwr o’r wlad, i fyw gyda’i gilydd mewn chalet yn yr Alpau, gyda’r nod o gwrdd â chariad. Yna, hanner ffordd drwy’r cyfnod, fe ddaeth tro ar fyd, a daeth dau arall i ymuno â nhw i gynhyrfu’r dyfroedd.
Bu’r castio’n llwyddiant ysgubol yn fy marn i, gyda chynrychiolaeth o acenion ac ardaloedd amrywiol yn cael eu dangos ar S4C, a braf oedd hynny. Roedd hi’n hyfryd gweld pobl efallai na fydden nhw wedi dod ar draws ei gilydd o’r blaen, wedi’u huno mewn chalet, ac yn gorfod sgwrsio ac yn gorfod canfod tir cyffredin mewn byr amser.
Mae’r Alpau, sy’n gefnlen i’r cyfan, yn ychwanegu’n fawr at y gyfres hefyd am fod y lleoliad yn creu darluniau hyfryd trwy’r holl benodau. Roedd hi’n braf hefyd gweld yr holl gast yn datblygu wrth i’r gyfres fynd rhagddi ac yn ennyn hyder mewn sefyllfaoedd eithaf bregus. Yma y gwelwn yr elfen o wir realaeth yn fy marn i, pobl go iawn yn dangos sefyllfaoedd go iawn. Lot mwy ‘real’ na theledu realaeth Saesneg am wn i.
Mae’r naws y mae’r gyfres hon wedi ceisio’i chyflawni wir yn effeithiol; o’r deunydd hyrwyddo, y ffontiau Ffrengig sy’n cael eu defnyddio, y gerddoriaeth Ffrangeg a’r elfen o realaeth wir wedi taro deuddeg gen i ac mae’r holl elfennau hynny yn ychwanegu at gyfres gyflawn.
Rhaid sôn hefyd am y ‘vodcasts’ sydd wedi bod yn dilyn pob pennod er mwyn trin a thrafod holl ddeunydd y penodau- elfen newydd a bywiog i gyfresi S4C. Mae’r elfen hon wedi ychwanegu at y modd y mae’r gyfres yn anelu at y gynulleidfa a’u tynnu nhw i mewn yn y drafodaeth wedi pob pennod.
Mae’n rhaid canmol beiddgarwch a chreadigrwydd S4C am gomisiynu’r gyfres gyffrous hon. Mae’r syniad hwn wedi cydio yng nghynulleidfaoedd ar draws Cymru, a mawr obeithiaf y bydd cyfres arall, a sawl cyfres arall wedi hynny hefyd!

