Un o’r pethau mae Prifysgol Caerdydd yn ceisio gwneud blwyddyn ar ôl blwyddyn yw denu mwy o siaradwyr Cymraeg. Dwi’n siŵr bod pob siaradwr Cymraeg wnaeth ysgrifennu eu bod nhw’n rhugl yn y Gymraeg ar eu ffurflen cais yn cofio’r e-byst yn ceisio’u denu i Ysgol y Gymraeg neu i astudio o fewn yr iaith. Er bod y dacteg hon yn un effeithiol (gan fod yr e-byst yn gyson yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyfleusterau Cymraeg y brifysgol), mae’n rhaid cwestiynu - oes digon o fuddsoddiad i mewn i fyfyrwyr Cymraeg?
Ysgol y Gymraeg, o fewn yr adeilad John Percival, yw un o’r ysgolion gorau o fewn y brifysgol. Maent yn cynnig cymaint o gyfleoedd a phrofiadau i fyfyrwyr, gan gynnwys modiwl sy’n rhoi lleoliad iddynt mewn gweithle sydd o ddiddordeb iddynt (S4C, ysgolion, ayyb.). Cynigant y cyfle i ymuno â’r Panel Myfyrwyr, lle gallwch drafod problemau (a llwyddiannau!) y brifysgol a sut i’w gwella.
Yn bersonol, ni allai gofyn am fwy gan Ysgol y Gymraeg.
Ond, beth am ysgolion eraill y brifysgol? Wrth gwrs, dyw cwrs yn y Gymraeg ddim yn eich unig gyfle i astudio o fewn y Gymraeg. Mae myfyrwyr efo’r cyfle i astudio nifer o gyrsiau trwy’r Gymraeg. Mae darlithwyr sy’n dysgu trwy’r Gymraeg wedi bod yn ymladd am well cyfleoedd o fewn y brifysgol am flynyddoedd maeth nawr.
Un esiampl arbennig yw JOMEC Cymraeg, sydd wedi bod yn gweithio’n galed am gyfleoedd gwell i fyfyrwyr er mwyn eu denu i astudio newyddiaduraeth. Ar hyn o bryd, darlithwyr JOMEC Cymraeg sydd wedi bod mwyaf llwyddiannus gyda’r buddsoddiad cyfyngedig maent yn derbyn.
