Mae ystadegau newydd yn awgrymu bod dros hanner miliwn o bobl yn byw gydag afiechyd meigryn yng Nghymru. Yn ôl Migraine Cymru Wales, grŵp cymorth i bobl sy’n byw â chlefyd meigryn, mae amcangyfrif bod tua 562,600 o bobl yn y wlad yn byw gyda meigryn. Gydag un ym mhob saith o bobl yn delio â meigryn yn fyd-eang, mae galw am gefnogaeth wrth i’r cyflwr gael effaith sylweddol ar unigolion ar hyd a lled y wlad.

Yn ôl Anna Maclean, GP o Gaerdydd oedd angen gadael ei swydd oherwydd y cyflwr: “Ti’n colli dy fywyd, colli swydd, colli ffrindiau oherwydd ti methu cynllunio gan fod y migraines yn hollol unpredictable. Mae’n difetha bywydau.”

‘Dim digon o gefnogaeth’

Mewn arolwg yn 2023, cyhoeddodd ‘The Migraine Trust’ bod cynnydd wedi bod yn yr amseroedd aros am driniaeth meigryn wrth i rai gorfod aros hyd at 27 wythnos i gael triniaeth. Dywedodd Anna Maclean: “Does dim digon o gefnogaeth achos ‘ma fe’n hynod o stigmatised. Postcode lottery yw e os ti’n cael y triniaethau newydd sydd ar gael”. Gan mai tri o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn unig sydd â chlinigau arbenigol, mae’r mynediad i driniaeth meigryn yng Nghymru yn gyfyngedig.

‘Angen mwy o funding’

Mae ‘The Migraine Trust’ wedi datgan bod y cyflwr yn amrywio rhwng unigolion; rhai yn profi ychydig ddyddiau o feigryn mewn blwyddyn a rhai yn delio â meigryn cronig sef meigryn sydd â symptomau sy’n para mwy na 15 diwrnod y mis. Er hyn, does dim ystadegau cenedlaethol swyddogol wedi’i rhyddhau ar y clefyd yng Nghymru oherwydd bod byrddau iechyd yn cofnodi’r clefyd mewn ffyrdd gwahanol. Yn ôl Anna Maclean: “Ma na ignorance mawr am yr underlying causes a dyw’r GPs ddim yn deall digon. Mae lot o help a gwybodaeth gan bethau fel National Migraine Centre, The Migraine Trust, EMHA, World Migraine Summit ond mae angen mwy o funding.”

Nifer yn dal i golli allan ar ddiagnosis

Amcangyfrifir bod 18% o bobl yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan feigryn, sy’n uwch na’r cyfartaledd byd-eang o 15%. Ar lefel Brydeinig, mae Prydain hefyd yn colli £9.2 biliwn i’w heconomi yn flynyddol gan fod symptomau meigryn yn atal pobl fel Anna Maclean rhag gallu gweithio. Mae symptomau meigryn yn arwain at 43 miliwn o ddiwrnodau gwaith ac addysg yn cael eu colli bob blwyddyn. Er hyn, nid yw meigryn yn gyflwr sydd wedi ei ddeall yn iawn eto gan bob haen o’r sector feddygol ac mae nifer yn dal i golli allan ar ddiagnosis.