Mae’r haf ar droed, ac yng nghwmni’r tywydd bendigedig sydd wedi bod yn ddiweddar, mae’n gyfnod perffaith i archwilio popeth sydd gan Gaerdydd i gynnig dros yr haf. O wyliau bwyd i gerddoriaeth fyw, i gaffis awyr agored wrth y dŵr. Un o’r digwyddiadau mwyaf poblogaidd yn ddiweddar oedd Foodies Festival ym Mharc Bute.
Wrth i’r haul wenu dros y coed, llenwodd y parc â bywyd a sŵn, gyda stondinau o bob cwr o Gymru yn cynnig bob math o fwyd, o fwyd stryd ryngwladol i ddanteithion lleol. Cafodd y noson ei goroni gan berfformiad gan y band poblogaidd Scouting for Girls, gan greu awyrgylch bywiog a chynnes. Roedd teuluoedd yn ymgasglu ar bicnic, cyplau’n rhannu crempogau ffres, a grwpiau o ffrindiau’n ymlacio gyda diod oer.
Golygfa wirioneddol hafol yng nghanol y ddinas. I’r rhai a fethodd yr ŵyl fwyd eleni, mae digon o gyfleoedd eraill i fwynhau’r haf yng Nghaerdydd. Ymhlith uchafbwyntiau calendr haf Caerdydd mae Tafwyl.
Gŵyl Gymraeg bywiog sy’n dod â cherddoriaeth, bwyd a diwylliant ynghyd mewn penwythnos llawn egni. Wedi’i chynnal yng nghysgod Castell Caerdydd ym Mharc Bute, mae’r ŵyl yn cynnig perfformiadau gan artistiaid Cymraeg cyfoes, stondinau, gweithgareddau i’r teulu, a llwyth o gyfleoedd i wrando, siarad ac ymarfer y Gymraeg mewn awyrgylch croesawgar. Nid yw Tafwyl yn ddim llai na dathliad o’r Gymraeg cyfoes.
Fel y dywedodd un o drefnwyr yr ŵyl ym Menter Caerdydd: “Mae Tafwyl yn ŵyl am ddim sydd yn ymdrechu i fod yn gynhwysol a hygyrchmae’n groesawgar i sydd eisiau cael blas ar ddiwylliant Cymraeg Caerdydd. Gyda cherddoriaeth amrywiol, sesiynau chwaraeon, ardal blant, pabell gemau fideo a llwyth mwy o bethau diri, mae ddigonedd i gadw’r teulu cyfan yn hapus”. Tu hwnt i’r gwyliau a’r digwyddiadau, mae gan Gaerdydd digonedd o lefydd prydferth i fwynhau’r had mewn modd mwy hamddenol.
Mae sinemâu awyr agored yn ymddangos yn y Castell ar amryw o ddyddiadau, sy’n gyfle unigryw i wylio ffilm o dan y sêr gyda blanced a bag o bopcorn wrth wylio Queen i The Greatest Showman ac amryw o ddewisiadau eraill. Mae Pontcanna yn lle poblogaidd i fynd am dro neu fwynhau paned mewn caffi annibynnol, tra bod Parc y Rhath yn cynnig man ddelfrydol i gael picnic neu i fynd ar pedlo ar y llyn. Does dim amheuaeth, beth bynnag eich diddordebau, mae Caerdydd yn dod yn fyw yn yr haf ac yn cynnig rhywbeth at ddant pawb.

