Mae mis Ionawr a Chwefror yn nodi blwyddyn newydd ac yn gyfle am ddechreuad ffres, gyda sawl sialens yn annog pobl i herio eu hunain o Vegananuary i heriau ffitrwydd. Un o’r sialensiau mwyaf poblogaidd yw Ionawr Sych (Dry January), sef i beidio ag yfed alcohol drwy gydol y mis. O roi cynnig ar dreulio cyfnod heb yfed alcohol, mae dwy fyfyrwraig Prifysgol Caerdydd wedi datgan nad oes angen diodydd alcoholig er mwyn iddynt gael hwyl drwy gymdeithasu.
Pobl ifanc 18-24 oed yw’r grŵp oedran fwyaf sobr yn ôl ystadegau YouGov. Un fyfyrwraig a gwblhaodd Ionawr sych yn anfwriadol eleni oedd Ela Rhys. Yn siarad gyda Taf-Od am ei phrofiad, dywedodd hi: “Ma’ dry Jan unintentional heb os wedi atgyfnerthu a wir wneud i fi sylweddoli bod ‘night out’ da ddim yn hollol ddibynnol ar alcohol o gwbl.
Dwi’n joio drinc yn amlwg, ond yn ben dant dim y ddiod sy’n diffinio trywydd y noson, y cwmni a’r bobl sydd bwysicaf.” “Yn bendant dwi wedi teimlo’n ysgafnach yn feddyliol... hynny ydi, mai ‘di bod yn hyfryd peidio gorfod deffro ar ôl noson o gymdeithasu gyda’r hangxiety sydd yn aml yn dod law yn llaw ag yfed alcohol. Hefyd, bod ‘na ddim oblygiadau’r diwrnod canlynol o ran bod modd deffro’n gwbl ffres heb yr un sgil-effaith a pharhau gyda’r diwrnod.” Yn ôl astudiaeth llynedd gan YouGov, mae dros 39% o bobl 18-24 oed y DU ddim yn yfed alcohol o gwbl, a throi at ddiodydd alcohol isel neu ddi-alcohol yn hytrach. “Mi fydden i’n hapus i ddim yfed eto” Aeth Anest Cunliffe, myfyrwraig yn y drydedd flwyddyn, gam ymhellach nag Ionawr sych, drwy ddewis mynd heb alcohol am flwyddyn gyfan y llynedd. Yn siarad gyda Taf-Od dywedodd hi, “Penderfynes i wneud e am lot o resymau, o’n i ddim yn hoffi sut oedd e’n neud i fi deimlo, colli’r diwrnod ar ôl, a gorfod gwario llawer o arian.” “O’n i ddim wedi teimlo gormod yn wahanol, jest o’n i byth yn teimlo’r angen i yfed nac yn gweld ishe fe.” Dywedodd fod disgwyliadau ar fyfyrwyr i yfed alcohol wrth gymdeithasu yn y Brifysgol, ond nad oedd hi wedi cael unrhyw brofiadau negyddol tra’n sobor y llynedd.
Yn bendant dwi wedi teimlo’n ysgafnach yn feddyliol...
Gan rannu profiad tebyg, dywedodd Ela, “Yn y flwyddyn gyntaf, dwi yn teimlo bod yna lawer o bwysau cymdeithasol i yfed, yfed ac yfed. Ond erbyn hyn, mi ydw i wedi sylweddoli bod pob noson allan yn be wyt ti fel person am iddo fo fod boed hynny’n cynnwys alcohol neu beidio. Eleni mae cymdeithas newydd wedi’i sefydlu gyda’r Brifysgol - Y Gymdeithas Sobr.
Bwriad y gymdeithas yw creu man diogel a hollol sobr lle gall myfyrwyr gael hwyl heb unrhyw bwysau i yfed alcohol.

