Yn dilyn llwyddiant ysgubol Amour a Mynydd ar ddechrau 2025, bydd y gyfres garu boblogaidd yn dychwelyd i S4C ar 10 Chwefror eleni. Bydd criw newydd o unigolion sengl yn teithio bob cam i’r Alpau Ffrengig i chwilio am gariad, ac efallai darganfod mwy amdanynt eu hunain ar hyd y ffordd. Bydd y criw yn treulio deuddeg diwrnod mewn chalet moethus, sy’n newydd i’r gyfres eleni.
Mae’n cynnwys pwll nofio, sawna, ardal ymlacio, campfa, ystafell chwaraeon, bar, ystafell ddirgel, a hyd yn oed llithren sy’n cysylltu’r lloriau. Gyda chast newydd, a chalet newydd, yr un cyflwynydd, Elin Fflur, fydd yn arwain y criw drwy’r profiad yng Nghyfres 2. Dywedodd, “Mae’r gyfres yma’n brysur, yn symud yn gyflym, yn gyffrous.” “Mae ‘na twists bach difyr yn digwydd.
Mae’r castio’n wych – mae’r criw wir wedi prynu fewn i’r syniad o pam oedden nhw yna, a maen nhw’n creu adloniant arbennig iawn.” Après: Amour a Mynydd Ar 3 Chwefror, cyn i’r gyfres ddechrau’n swyddogol, bydd rhaglen arbennig Entrée Amour & Mynydd yn rhoi cipolwg i’r gwylwyr o’r gyfres sydd o’u blaenau. Bydd y rhaglen yn dilyn Mari Beard a Meilir Rhys Williams wrth iddynt fusnesu yn y chalet newydd, a chwrdd ag ambell aelod o’r cast ac Elin Fflur. Bydd y deuawd doniol hefyd yn dychwelyd i gario clecs ar fodcast wythnosol y rhaglen, Après: Amour a Mynydd.
Wrth i’r pâr ddweud eu dweud mewn awyrgylch fywiog, anffurfiol, caiff y gwylwyr, hefyd, “deimlo yn rhan o’r sgwrs,” yn ôl Meilir. “Mae ‘na elfen fwy cystadleuol i’r gyfres yma a dwi’n meddwl bod hi’n ddatblygiad llwyddiannus iawn o gyfres un, yn y ffaith bod bob dim yn fwy,” ychwanegodd. “Mae’r chalet yn fwy, mae’r cast yn fwy, ac mae’r cynnwys yn mynd i fod yn fwy amrywiol o ran drama, serch, a lleoliad newydd. Felly mae o i gyd yn ffresh, ond yn cadw naws y gyfres gynta’.” Felly fyfyrwyr, pan fyddwch chi’n ymlacio ar y soffa ac yn chwilio am rywbeth i’w wylio ar ddiwedd y dydd, beth am roi cynnig i’r gyfres gyffrous hon? Ewch i nôl paned o de, rhowch eich traed i fyny, a mwynhewch - mae’n addo digon o ddrama, emosiwn, a throeon annisgwyl i’ch cadw ar flaenau eich sedd! “Nes i joio’r gyfres ddwetha shwt gyment, a fi’n credu bydd yr un ma hyd yn oed yn well – ma fe’n edrych fel ‘se nhw ‘di upgrado tipyn!
Nes i joio’r gyfres ddwetha shwt gyment, a fi’n credu bydd yr un ma hyd yn oed yn well
Fi ffili aros i wylio fe yn gegin y fflat gyda fy ffrindie i unwindo ar ôl diwrnod hir o ddarlithoedd!” – Cadi Davies, myfyriwr Blwyddyn 1af.
