Mae disgwyl newid mawr i dirwedd wleidyddol Cymru ar ôl etholiad Senedd mis Mai flwyddyn nesaf os yw’r polau piniwn i’w credu.

Tra ei bod yn ddigon posib y bydd Llafur Cymru yn hunanfodlonol, mae Plaid Cymru a Reform yn sicr yn ennill tir – dwy blaid genedlaetholgar â chredoau gwbl wahanol. Yn ôl y polau piniwn diweddaraf, maent yn gosod Plaid Cymru ar y blaen gyda Reform yn dynn wrth eu sodlau. Mae’r ymchwil hwn gan YouGov yn golygu, pe bai etholiad Senedd yfory, Plaid Cymru byddai’n ennill gydag un sedd yn fwy na Reform. Ond ni fyddai gan Lywodraeth Plaid Cymru fwyafrif gan olygu byddai angen i’r blaid gydweithio gydag oleiaf un blaid arall. O 2026 ymlaen, bydd 96 o Aelodau Seneddol yn cael eu hethol ar draws 16 etholaeth mewn system gyfrannol. Mae systemau cyfrannol yn ei gwneud hi’n anoddach i un blaid fod yn fuddugoliaethus gan ganiatáu i bleidiau lleiafrifol (fel Plaid Cymru a Reform UK) i ddod i’r amlwg. Y system a ddefnyddir yn etholiadau Senedd Cymru o 2026 ymlaen ydy ‘System Rhestr Caëdig’ sy’n golygu bydd chwe aelod yn cael eu hethol o fewn pob un etholaeth. Felly, pleidleisio am blaid y byddwch, nid aelod penodol. Er bod system rhannol-gyfrannol wedi cael ei defnyddio yng Nghymru ers datganoli, nid ydyw wedi cael ei defnyddio i’r fath raddfa ers ethol Aelodau Senedd Ewrop. Bydd aelodau yn cael eu hethol yn ôl cyfran o’r pleidleisiau maent yn eu derbyn ym mhob etholaeth. Petai plaid yn ennill 50% o’r bleidlais mewn etholaeth, byddant yn ennill 3 sedd o’r etholaeth yn y Senedd. Dydy Llafur heb golli mewn etholiad yng Nghymru ers canrif, ond tybed ai 2026 yw’r flwyddyn fydd hyn yn dod i ben? Plaid Cymru, ar y llaw arall, wedi ei sefydlu ers canrif ond heb ennill etholiad erioed. Gwŷr pawb beth yw eu dymuniad pen-blwydd nhw. Tra bod dwy blaid yn brwydro ar y chwith, Reform sydd i weld yn dominyddu’r dde gyda’r Ceidwadwyr yn ei gweld hi’n anodd i ddygymod â’r golled hanesyddol yng Nghymru yn 2024 lle gwelwyd ‘Torywipeout’. Gobeithio gweld diwedd y twnnel tywyll maen nhw. Mae deufis i fynd tan y flwyddyn newydd ond am flwyddyn newydd mae hi am fod yn wleidyddol. Blwyddyn newydd, Senedd newydd ond tybed a fydd Llywodraeth newydd?