Eleni, derbyniodd deg myfyriwr o Ysgol y Gymraeg ysgoloriaeth i dreulio cyfnod dros yr haf yng nghymuned Gymraeg y Wladfa. Dyma brofiadau dwy ohonom o dîm Taf- Od, a oedd yn ddigon ffodus i fod ymhlith y deg! Mae’r syniad o gymuned Gymraeg mewn gwlad mor bell â’r Ariannin wastad wedi sbarduno diddordeb ynof, ac rydw i’n hynod ddiolchgar fy mod i wedi cael y cyfle i’w phrofi dros fy hunan.

Heb os, dyma un o’r pethau gorau i mi eu gwneud! Treuliom ni bythefnos cyntaf y daith yn ardal Dyffryn Camwy, lle buom yn brysur yn mynychu gweithgareddau amrywiol yn y Gaiman, Trelew, Dolavon, Rawson a Phorth Madryn. Wrth gyrraedd, roedd y gwahaniaethau i gymharu â Chymru yn amlwg; y tirlun, y bensaernïaeth a Sbaeneg fel prif iaith.

Eto i gyd, roeddem ni’n teimlo’n gartrefol yn syth, a hynny am fod y Gymraeg yno, yn fyw ac yn ffynnu. Profiad swrrealaidd oedd gweld baneri Cymru ochr yn ochr â baneri’r Ariannin ym mhob cwr o’r trefi hyn. Heb sôn am yr enwau Cymraeg ar siopau, tai te, a chlwb rygbi’r Ddraig Goch!

Hawdd iawn oedd anghofio ein bod ni hanner ffordd ar draws y byd! Roedd ein cyfnod yn y Dyffryn wedi’i lenwi gydag ymweliadau ysgolion, gwersi oedolion, clybiau sgwrsio, a gweithgareddau allgyrsiol megis canu mewn côr a dawnsio gwerin. Roedd agwedd y bobl tuag at y Gymraeg yn hynod galonogol, a mwynheais bob sgwrs am hanesion unigolion a’u rhesymau dros siarad neu ddysgu’r iaith.

Braf iawn oedd gweld diwylliant Cymreig ar ei orau mewn ymarferion ar gyfer Eisteddfod y Bobl Ifanc, â’r cystadlaethau Cymraeg a Sbaeneg yn cynnig cyfle euraidd i bobl leol ddathlu bob elfen o’u hunaniaeth. Braint hefyd oedd i mi gael perfformio dawns clocsio mewn cynhadledd ar gyfer yr Eisteddfod, wrth i’r dref baratoi ar gyfer y digwyddiad pwysig. Pythefnos brysur ond bythgofiadwy!

Cyn pen dim, daeth hi’n bryd i’r tair ohonon ni deithio i Gwm Hyfryd – ardal hardd, fynyddig, ar ochr arall y paith. Cawson ni groeso cynnes iawn gan drigolion Trevelin, y dref lle wnaethon ni aros, ar unwaith, gan ein galluogi i ymgartrefu yno cyn gynted ag y gwnaethon ni yn y Dyffryn. Treulion ni’r rhan fwyaf o’n dyddiau yn Ysgol y Cwm, lle buon ni’n cynnal gweithgareddau amrywiol i’r disgyblion.

Profiad hollol swrrealaidd oedd clywed plant yn siarad Cymraeg ac yn canu caneuon Cyw ar ochr arall y byd! Yn ogystal â mynd i’r ysgol, cawson ni hefyd fynychu gwersi oedolion yn y dref gyfagos Esquel, ac ambell wers ddawnsio gwerin. Rhaid cyfaddef, roedd y gwersi dawnsio gwerin yn destun cywilydd i ni’n tair, am i’r Archentwyr allu dawnsio yn well o lawer na ni!

Buon ni’n ffodus iawn i gael rhywfaint o amser rhydd yn ystod y prynhawniau a’r penwythnosau yn y Cwm. Gwnaethon ni fanteisio ar y cyfle i ymweld â rhai o’r atyniadau twristaidd cyfagos, gan gynnwys mynd am dro o amgylch Llyn Brychan, Nant y Fall, a Pharc Cenedlaethol Los Alerces. Fy hoff weithgaredd i oedd teithio ar drên La Trochita i ymweld â phentref Brodorion yr ardal – profiad cwbl unigryw, gyda golygfeydd hollol syfrdanol!

Yn wir, roedd ein cyfnod ni yng Nghwm Hyfryd yn hollol hyfryd! Gwnaeth y bythefnos hedfan heibio, ac ym mhen dim roedd hi’n amser hedfan yn ôl i Gymru fach i adrodd yr hanes i’n teuluoedd a’n ffrindiau adref.