Bu dathlu yng Ngheredigion yn niweddar wedi i Aberystwyth ennill statws Dinas Llên UNESCO. Cafodd UNESCO, neu ‘United Nations Educational, Scientific and Cultural Organization’ ei sefydlu yn 2004 er mwyn adnabod a hyrwyddo cydweithrediad rhwng dinasoedd sy’n defnyddio creadigrwydd a llenyddiaeth fel ffactor strategol er mwyn datblygiad trefol cynaliadwy. Er mwyn ennill y teitl hwn, rhaid i’r ddinas gwrdd â phwyntiau meini prawf gan UNESCO sy’n cynnwys ansawdd, niferoedd ac amrywiaeth o lenyddiaeth yn y ddinas, y digwyddiadau a gwyliau sy’n cael eu dal yn y ddinas a bodolaeth llyfrgelloedd a chanolfannau diwylliannol yn y ddinas.

Erbyn heddiw mae dros 50 o ddinasoedd wedi ennill y teitl yma, gydag Aberystwyth yn ymuno â nhw ar yr 31ain o Hydref. Mae’r cyflawniad yma wedi bod yn y broses ers 2021 gyda sefydliad ‘Dinas Llên’ i baratoi ar gyfer cyflwyniad y dref i UNESCO ym mis Mawrth eleni. Dyma bartneriaeth rhwng nifer o sefydliadau yn Aberystwyth a Cheredigion megis y Cyngor Sir, Prifysgol Aberystwyth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru i hybu arferion a thraddodiadau creadigol a llenyddol yr ardal, sydd bellach wedi profi yn deilwng.

Aberystwyth ydy’r ddinas gyntaf i ennill y teitl yma yng Nghymru, a bellach y mae’n cael ei hadnabod ymysg dinasoedd megis Barcelona (Sbaen), Seattle (Unol Daleithiau America) a Rio de Janeiro (Brasil). Er nad yw Aberystwyth yn cael ei hadnabod fel dinas yn draddodiadol, mae hi’n ardal gyfoethog mewn llenyddiaeth, prifysgolion, a llyfrgelloedd gan gynnwys y Llyfrgell Genedlaethol, sydd yn ddigon i gael ei hadnabod fel Dinas Llên yn ôl UNESCO. Wrth edrych ar hanes y dref, mae ganddi gysylltiadau i dros 300 o feirdd, yn cynnal nifer o wyliau megis yr ŵyl ddarllen, gŵyl y castell a’r ŵyl gomedi, ac yn dathlu ei threftadaeth gyfoethog ddiwylliannol a llenyddol yn aml.

Mae llawer yn sôn fod hwn yn garreg filltir nid yn unig i Aberystwyth, ond i Geredigion a Chymru gyfan gan fod diwylliant cryf o lenyddiaeth y Cymry yn cael ei adnabod ar lwyfan genedlaethol. Dywedodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru fod ennill y teitl yma yn “hollol haeddiannol” a’i bod yn “gyffrous i weld cyfleoedd newydd i dref wrth iddo ffynnu fel Dinas Llên Cyntaf Cymru”.