Ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau di-ri caiff eu cynnig i ni yma yng Nghaerdydd i’n diddanu dros gyfnod yr Ŵyl. Nid yw’n syndod felly fod y ddinas yn atynnu torfeydd sylweddol eto eleni i ymgolli yn y dathliadau ac ysbryd y Nadolig.

Gŵyl Gaeaf - Sglefrio: Castell Caerdydd, Stryd y Castell. Y Bar Barrug a’r ffair: Lawnt Neuadd y Ddinas.

Un o brif atyniadau’r ddinas dros y cyfnod hwn yw ‘Gŵyl y Ddinas.’ Nid yn unig fod y golygfeydd, y bwrlwm a’r ymdeimlad Nadoligaidd yn hyfryd ond, mae rhywbeth ar gyfer unrhyw un. Yno, gellir dilyn y ‘llwybr iâ’ drwy erddi’r castell nes cyrraedd y cylch sglefrio. Gair o gyngor, mae’n syniad archebu tocyn i sglefrio o flaen llaw yn sgîl y prysurdeb a gellir gwneud hynny ar wefan ‘Gŵyl y Gaeaf Caerdydd.’ Profiad Nadoligaidd arall caiff ei gynnig o fewn yr ŵyl ond eto, rhaid archebu tocyn o flaen llaw, yw’r ‘Bar Barrug’ sy’n gyfle perffaith i gymdeithasu’n dilyn yr holl weithgareddau. Awyrgylch hudolus a geir yma hefyd wrth yfed mewn bar ble mae’r hyn o’ch amgylch wedi’u cerfio’n gywrain o rew. Yn sicr dyma un o brofiadau fwyaf hanfodol ac unigryw yr ŵyl. I’ch diddanu ymhellach beth am ymweld â’r ffair sydd eto wedi’i leoli’n gyfagos i’r castell? Amrywiaeth o reidiau sydd yno i ystod eang o oedrannau ond heb os, mae mentro ar yr olwyn fawr yn gyfle gwych i weld Caerdydd ar ei gorau’n ysbryd yr ŵyl. Dyma gyfle gwerth chweil felly i greu atgofion a chymdeithasu yng nghalon Caerdydd.

Y Farchnad Nadoligaidd – Canol y Ddinas, Caerdydd.

Os am ddianc o fwrlwm ‘Gŵyl y Gaeaf ’ beth am ymweld â’r farchnad Nadoligaidd? Yno, mae degau o stondinau amrywiol sy’n arddangos talentau crefftwyr Cymru ac yn gyfle perffaith i ddechrau’ch siopa Nadolig. Gwaith gwreiddiol sydd i’w weld yno gan wneuthurwyr medrus gyda hynny’n amrywio o emwaith, tecstilau, gwaith pren, a darnau o gelf ar draws sawl cyfrwng. O frownis, caws, cnau a diodydd amrywiol, bydd digon o gyfle hefyd i lenwi eich boliau wrth ymweld â’r stondinau bwyd sydd unwaith eto’n gynnyrch Cymreig blasus.

Y Llwybr Goleuadau – Parc Bute:

Lleoliad delfrydol arall i ymweld ag ef yn y ddinas yw Parc Bute ac mae archebu tocyn o flaen llaw yn cael ei argymell. Cyfle sydd yno i ddilyn y llwybr golau, disglair wedi’i llunio gan artistiaid byd-eang. Mae’r parc eisoes wedi atynnu cynulleidfaoedd am y bedwaredd flynedd eleni. Heb os, dyma gyfle i weld y parc eiconig hwn yn ei hanterth dros gyfnod y Nadolig.

Sioeau Amrywiol -

Awydd cael seibiant o fwrlwm canol y ddinas, be’ well na’ archebu tocyn i fynd i wylio un o’r sioeau sydd ar gael dros fisoedd y Nadolig? Cyfle hyfryd arall i gymdeithasu, i ymgolli yn yr ŵyl ac i ymlacio. Dyma awgrymiadau, gan enwi dim ond ychydig o’r hyn caiff ei gynnig:

  • Cabaret Nadoligiadd, ‘My Favourite Things’ – Gerddi Sophia.
  • ‘Welsh of the West End At Christmas’ – Gerddi Sophia.
  • Cyngerdd Nadolig Tŷ Hafan – Canolfan y Mileniwm.
  • ‘All I want for Christmas is Musicals’ – Canolfan y Mileniwm.
  • Cyngerdd Nadolig Bandiau Pres – Canolfan y Mileniwm.
  • Dathliadau Nadolig Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC - Canolfan y Mileniwm.

Heb os, mae gan Gaerdydd lond llaw o bethau i’w cynnig i’n diddanu dros gyfnod y Nadolig – o sglefrio, i stondinau ac i sioeau, yn sicr mae rhywbeth ar gyfer unrhyw un. Dewch yn llu felly i Gaerdydd, y lleoliad delfrydol i brofi cynnwrf paratoadau’r Nadolig.