Er mwyn lleihau’r nifer o geir ar heolydd Caerdydd, mae Cyngor y ddinas wedi cyflwyno cynlluniau i atal myfyrwyr rhag ymgeisio am drwyddedau parcio.
Mae gan fyfyrwyr bryderon am eu gallu, yn sgil y cynlluniau, i fynychu profiadau gwaith sydd ymhell o’u tai. Ond, mae Cyngor Caerdydd yn mynnu y byddai’r cynllun yn galluogi i breswylwyr llawn-amser gael mwy o fynediad at lefydd parcio.
Byddai’r cynlluniau yn golygu na fydd hawl gan fyfyrwyr ymgeisio am drwyddedau parcio i breswylwyr gan eu gadael heb le i barcio neu i wynebu costau uwch i barcio mewn meysydd parcio.
Mewn e-bost at fyfyrwyr, mae Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn galw ar Gyngor Caerdydd i “ollwng y gwaharddiad parcio myfyrwyr” gan alw ar fyfyrwyr sy’n “gwerthfawrogi hygyrchedd” i leisio eu barn.

Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd wedi lansio deiseb yn galw ar Gyngor Caerdydd i roi stop ar gynlluniau i atal myfyrwyr rhag barcio yn y ddinas â thrwydded. Mewn datganiad gan yr Undeb, dywedwyd, “Mae’n siom gweld myfyrwyr yn cael eu dynodi fel grŵp nad sydd, yn ôl pob golwg, yn haeddu mynediad cyfartal at wasanaethau”.
Wrth siarad â Gair Rhydd, dywedodd Beca Parry, myfyriwr Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ei bod yn “defnyddio car lot – oleia’ dwy i dair gwaith yr wythnos”.
“Mae gen i ymarferion pêl-rwyd sydd ddim yn agos iawn a gyda placements, meddyliais bysa fo’n handi”, meddai.
Mae Beca yn chwarae pêl-rwyd i Gymru a dywedodd ei bod hi’n hanfodol “gallu bod ar amser” gan ddweud ei bod hi’n gwybod am rai sy’n “gyrru i ymarferion yn gynnar yn y bore- o 6:45yb ‘mlaen”.
“Byddwn i’n dweud wrth y cyngor i ystyried yr effaith ar gostau myfyrwyr”, meddai wrth Gair Rhydd gan fod peidio cael car i rai, yn golygu gorfod talu pris cynyddol am Uber yn y ddinas.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol, Newid Hinsawdd a Thrafnidiaeth, Dan De-Ath, bod y “gallu i gymudwyr ddod i barcio yn y ddinas am ddim yn arwain at lygredd aer a thagfeydd, gyda’n preswylwyr ni yn dioddef.”
Mae’r cynllun parcio newydd ar gyfer Caerdydd yn bwriadu rhoi mynediad gwell i breswylwyr, deiliaid bathodynnau glas, clybiau beiciau a cheir a busnesau lleol i barcio trwyddedig ar y stryd”.
Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i leihau’r ddibyniaeth ar geir preifat ac annog mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae 15% o’r ymatebion hyd yma yn ymatebion gan fyfyrwyr ond mae’r cyngor yn galw ar bawb i ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus, fydd yn agored tan y cyntaf o Ragfyr. Does dim disgwyl i unrhyw newidiadau gael eu gweithredu tan Hydref 2026.
