Oeddech chi wedi cymryd rhan yn Ionawr Sych, ‘Dry Jan’? Oeddech chi’n llwyddiannus, neu a’i damp Jan oedd eich mis chi? A wnaeth yr Ionawr Sych droi i win sych?

Roedd ymchwil gan Alcohol Change yn dangos fod 30% o ddynion a 26% o fenywod o’r DU yn datgan eu bod nhw eisiau lleihau’r cyfanswm o alcohol maent yn yfed yn 2024. Dengys ymchwil fod 53% o fyfyrwyr yn yfed yn wythnosol. Mae cwarter o Gen Zddim yn defnyddio alcohol.

Mae Elan Jones, cynlywydd y Gym Gym yn dweud nad oedd hi’n teimlo ei bod hi’n gallu ymgymryd ar yr her fel myfyriwr prifysgol, gan fod y diwylliant yfed yn rhan anochel o fywyd prifysgol. Dywedodd ‘pan oeddwn i adre ddechrau’r mis roeddwn i’n gallu peidio yfed ond wrth ddod yn ôl i’r brifysgol roedd gwledd y Gym Gym a gweld pawb eto yn beth naturiol i gymysgu cymdeithasu ac alcohol’. Roedd ymchwil yn dangos fod 81% o fyfyrwyr yn dweud bod yfed a meddwi yn rhan o brofiad prifysgol.

Yn 2023 mi wnaeth 175,000 o bobl gofrestru ar yr her o Ionawr Sych gydag Alcohol Change. Yn ôl ymchwil gan The Guardian roedd tafarndai yn dioddef oherwydd bod llawer o bobl wedi ymgymryd ar yr her, gyda chanran gwerthiant spirits wedi lleihau 19% yn y bythefnos ddiwethaf. Un o’r tipiau sydd yn cael ei awgrymu ydy fod pobl yn dod o hyd i ddiod di-alcoholig sy’n amnewid dros y diodydd arferol.

Roedd The British Beer and Pub Association wedi datgan fod tafarndai wedi gorfod addasu yn gyflym a stocio mwy o ddiodydd di-alcoholig. Roedd llawer o ddylanwadwyr fel Alix Earle ar TikTok yn gwneud y sialens 30 day hard, ac un o’r gofynion ydy peidio yfed alcohol. Un o nodweddion brand Alix Earle ydy mynd allan i glybiau nos Miami ac felly roedd llawer o’i dilynwyr yn amheus.