Mae Wythnos y Glas wedi dod i ben erbyn hyn ac mae rhaid gweud - dyna beth oedd wythnos! O nosweithu GymGym i ddigwyddiadau Undeb y Myfyfrwyr, roedd hi’n wythnos llawn dop! Ond nawr bod yr holl helynt drosodd, mae’n bryd i chi lasfyfyrwyr setlo mewn i fywyd arferol yn y brifysgol. Felly dyma gwpwl o ‘top tips’ i lasfyfyrwyr.
Boed yn ymuno â chymdeithas neu drio rhywbeth newydd, mae Caerdydd yn orlawn gyda cyfleoedd i fyfyrwyr. Gallwch drio bwyd mewn amryw o leoliadau ar draws y ddinas neu rhoi ymgais ar chwaraeon newydd. Gallwch fynd ar dripiau addysgiadol neu gymdeithasol drwy nifer o gymdeithasau’r brifysgol. Hyn i gyd tra’n creu ffrindiau newydd a gweld pob cornel o Gaerdydd, a chofiwch, dyw hi byth rhy hwyr i ymuno. Felly gwedwch ie i bopeth- mae nifer o gyfleoedd i gael i bawb o bob wedd o fywyd.
Yn amlwg, mae’r holl gyfleoedd yn mynd lan ac amser, a rhwng y cyfleoedd yma, darlithoedd, seminarau a gweithdai, bydd gennych chi amser rhydd yn dal i fod! Byddwch yn ddoeth yn yr amser rhydd yma drwy wneud ychydig o waith - yn darllen am eich cwrs neu ‘n paratoi ar gyfer seminarau. Mae’n bwysig i chi aros ar ben eich holl waith felly, manteisiwch ar eich amser rhydd i wneud hyn. Er bod sgrolio ar y cyfryngau cymdeithasol yn gallu swnio’n wael, mae’n grêt er mwyn ffeindio rysait newydd neu tips i lasfyfyrwyr. Manteisiwch ar hyn, mae nifer fawr iawn o fyfyrwyr yn defnyddio Tiktok neu Instagram ar gyfer cynllunio prydau, peidiwch gwneud eich deiet i gyd yn orlawn o ‘pot noodles’ a ‘sweet treat’ o Tesco! Arian: Mae’n gallu ymddangos yn frawychus i gael eich benthyciad gan Student Finance Wales a gorfod cyllido, arbed a peidio gwario’r holl arian ar siopa dillad! Rhowch gyllid wythnosol i’ch hunan, a gweithiwch o gwmpas hynny. Prynu bwyd unwaith yr wythnos i bara’r wythnos gyfan, cadw ychydig o arian ar gyfer taliadau pwysig fel rhent neu blaendal i fynd ar drip, ac wrth gwrs ychydig o arian ar gyfer y gweithgareddau cymdeithadol (does dim rhaid i hyn gynnwys alcohol!). Mae’n ddoeth i gael dau gyfrif banc - un ar gyfer arbed, ac un ar gyfer gwario eich cyllid wythnosol. Felly dyna’r tri ‘top tip’ mwyaf i lasfyfyrwyr. Cofiwch ‘weud ie i bopeth, llenwi eich amser rhydd gyda bach o waith, a bod yn ddoeth gyda’ch arian. Yn olaf, cofiwch joio’r profiad. Mae symud o adref yn brofiad newydd i bawb ac er ei fod yn gallu bod yn frawychus, mae’n gyfle i fod yn fwy annibynnol ac yn eich paratoi ymhellach at fywyd fel oedolyn.
