Cafodd cyhoeddiad cyffrous gan UEFA ei wneud yn ddiweddar, yn cadarnhau y bydd gêm agoriadol Euros 2028 yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd.

Bydd y bencampwriaeth yn cael ei chyd-gynnal gan bedair gwlad sef Lloegr, yr Alban, Cymru a Gweriniaeth Iwerddon, gyda’r gêm gyntaf yn Stadiwm Principality ar 9 Mehefin 2028.

I gyd, bydd chwe gêm yn cael eu chwarae yng Nghymru, gan gynnwys rownd 16 ac un o’r rowndiau wyth olaf.

Mae hyn yn garreg filltir arbennig i’r genedl, gan nodi’r tro cyntaf i Gymru gynnal gemau yn rowndiau terfynol twrnament pêl-droed rhyngwladol mawr.

Mewn datganiad a ddyfynnwyd gan y BBC, pwysleisiodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, natur gyffrous y newyddion yma: “This will be the first time that ‘The Red Wall’ our passionate Wales fans will experience a major international tournament on home soil.”

Ychwanegodd mai digwyddiad “truly historic” fydd hwn, un a fydd yn uno cymunedau, ac yn dangos gorau pêl-droed a diwylliant Cymru ar lwyfan byd-eang.

I lawer, mae Euros 2028 yn gyfle i wneud i’r byd sylwi ar Gymru fel gwlad ar wahân i Loegr.

Mae’r awdur chwaraeon a cholofnydd Pêl-droed Phill Stead yn pwysleisio bod angen i’r Gymraeg fod yn weladwy yn y cyfle yma; “Pan mae pobl dramor yn meddwl am Gymru, maen nhw’n gweld y stadiwm, ond nid pawb yn sylwi nad ydym ni’n rhan o Loegr.”

Gan fod Saesneg yn brif iaith UEFA, mae pryder y gallai’r Gymraeg lithro i’r cefndir.

Yn ôl Phil, mae hyn yn codi “cyfrifoldeb ar awdurdodau Cymru i sicrhau bod yr iaith yn bresennol ar arwyddion” yn y cyfryngau ac ar strydoedd y ddinas.

“Mae digwyddiad fel hyn yn dod â channoedd o dimau cyfryngol ac influencers i’r ddinas. Os fyddan nhw’n dysgu hyd yn oed ychydig o eiriau ac yn cydnabod bod iaith arall yma, gall hynny hybu’r Gymraeg ac ein hunaniaeth.”

Nid canlyniadau chwaraeon yn unig sy’n bwysig.

Fel y nododd un cefnogwr o’r enw Caio Hughes. Mae twrnament fel hyn yn “ddathliad cymdeithasol sy’n llenwi’r strydoedd â phobl o bob cwr o Ewrop, pobl sy’n bwyta, yn yfed ac yn mwynhau’r ddinas, gan gyfrannu’n uniongyrchol at yr economi leol.”

Mae tystiolaeth o ddigwyddiadau tebyg yn awgrymu potensial enfawr.

Yn Ewro 2024, amcangyfrifodd UEFA fod y digwyddiad wedi cynhyrchu tua €7.44 biliwn o effaith economaidd i’r dinasoedd roedd yn ei chynnal.

Gyda Chaerdydd yn barod i groesawu degau o filoedd o gefnogwyr rhyngwladol, mae disgwyl i fusnesau lleol, o westai i dafarnau a hefyd y sector twristiaeth ehangach fanteisio’n sylweddol ar y llif.