Croeso i bennod 1202 o Gair Rhydd.

Yn bersonol, hydref yw fy hoff dymor o’r flwyddyn. Y dail creisionllyd, y chai lattes, a fy mhen-blwydd, does dim llawer i gasáu. Ond, gyda dwyster gwaith prifysgol yn treiddio’n bywydau, mae’n bwysig cofio taw dyma yw’r amser mwyaf llawen y flwyddyn. Y sylweddoliad taw dyma yw fy hydref olaf yn y brifysgol yw’r un mwyaf ofnus y tymor.

A Gair Rhydd editor seated at the Xpress Radio studio desk.

Dwi’n troi 21 yfory, os ydych yn darllen hwn ar yr 28ain. Efallai rydych yn darllen hon ar fy mhen-blwydd! Efallai nad ydych yn darllen hwn o gwbl. Blwyddyn yn henach a, gobeithio, yn ddoethach. I ddweud y gwir, dwi dal yn teimlo’n 18 ac weithiau’n atal pryd bynnag mae rhywun yn gofyn fy oedran. Dwi ddim yn barod i fod yn oedolyn eto... jyst rho’ cwpl mwy o flynyddoedd i mi yn y brifysgol.

Gyda Chalan Gaeaf yn agosâi yn gyflym, mae’n gwneud synnwyr i gynnwys nifer o erthyglau arswydus o fewn y rhifyn hwn. O straeon ysbryd i adolygiadau o ffilmiau ofnus, rydym yn gobeithio bod rhywbeth yma i’ch ymddiddori. Ond, os nad yw Calan Gaeaf o ddiddordeb i chi, rydym dal wedi cynnwys ystod o’n herthyglau arferol i chi!

A student reading a copy of Gair Rhydd in the editorial office.

Rydym yn fwy nag ffynhonnell newyddion, rydym hefyd yn llwyfan ar gyfer eich llais. O fewn y rhifyn hwn, gobeithiom fod ein tudalen ‘Agree to Disagree’ newydd fedru hwyluso trafodaeth am nifer o bynciau. O ofergoelion i gerddoriaeth pop, mae ein hadran newydd yn gadael le am ddadleuon iach er mwyn i chi creu barn eich hun!

Copies of Gair Rhydd displayed in a newspaper holder marked “Please take one”.

Ychwanegiad arbennig arall i’r argraffiad arswydus hon yw cyfweliad gyda Lee Waters, y gweinidog oedd yn gyfrifol am y terfyn cyflymder o 20mya ar draws Cymru. Cyfweliad hynod o ddiddorol ac addysgiadol am bolisïau trafnidiaeth Cymru. Gobeithiom eich bod chi’n ei fwynhau!