Wrth i ŵyl Gymraeg fwyaf y brifddinas baratoi i ddathlu carreg filltir arbennig, mae cyffro’n adeiladu ar draws Caerdydd. Eleni, mae Tafwyl yn dathlu ugain mlynedd ers ei sefydlu, ac mae’r trefnwyr yn addo penwythnos i’w gofio. Ar benwythnos y 20fed a 21ain o Fehefin, bydd Tafwyl yn agor ei gatiau unwaith eto i groesawu pobl o bob cwr o Gymru.

Ers ei sefydlu yn 2006, mae’r ŵyl, a oedd unwaith yn gymharol fach, wedi tyfu’n un o ddigwyddiadau diwylliannol pwysicaf Cymru. Bob blwyddyn mae’n denu miloedd o ymwelwyr gan gyfuno cerddoriaeth fyw, bwyd, llenyddiaeth, siopa, a gweithgareddau teuluol. Fel bob blwyddyn, bydd mynediad yn agored ac am ddim, gan ei wneud yn hawdd i bawb fynychu.

Ond i nodi’r dathliad arbennig hwn, un o’r newidiadau mwyaf eleni yw’r lleoliad. Bydd Castell Caerdydd yn croesawu’r ŵyl gyda drysau agored, gan ddarparu cefndir trawiadol a hanesyddol i’r digwyddiad. Yn ogystal â’r lleoliad, mae’r lein-yp ar gyfer yr ŵyl wedi creu cryn gyffro.

Mewn dinas mor amlddiwylliannol â Chaerdydd, mae digwyddiadau fel Tafwyl yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal a hyrwyddo diwylliant Cymraeg

Bydd artistiaid adnabyddus fel Candelas, Buddug, Al Lewis, Ani Glass a Cowbois Rhos Botwnnog yn perfformio dros y penwythnos, gan sicrhau cymysgedd o enwau mawr a thalent newydd. Ychwanegiad newydd i’r maes eleni yw’r Ardal Tocyn Aur. Bydd yr ardal hon yn cynnig profiad premiwm i’r rhai sy’n dymuno bod yn fwy cyfforddus ac ymlaciol.

Am bris cynnar o £20 y diwrnod, bydd ymwelwyr yn cael mynediad i ardal 18+ o dan do gyda bar preifat, tai bach moethus a golygfa sefyll wych o’r Prif lwyfan. Mae’r trefnwyr yn pwysleisio bod niferoedd yn gyfyngedig, felly bachwch eich tocyn cynnar nawr! Wrth gwrs, nid oes rhaid bod yn siaradwr rhugl Cymraeg i fwynhau’r digwyddiad.

Mae Tafwyl yn cynnig croeso cynnes i bawb, boed yn siaradwr rhugl, yn ddysgwr, neu’n berson sydd newydd ddechrau eu taith Gymraeg. Ar ôl ugain mlynedd o lwyddiant, mae’n amlwg fod Tafwyl yn parhau i fod yn un o uchafbwyntiau diwylliannol Caerdydd. A gyda dychweliad i’r castell, ardal newydd, a lein-yp addawol, mae pob arwydd yn awgrymu y bydd hon yn flwyddyn go arbennig.

Wela’i chi’n Tafwyl!