Wrth i’r dail droi’n oren a’r awel droi’n oer – mae hi’n atgof i ni fod misoedd yr Hydref wedi dychwelyd eto. Er bod rhai yn hiraethu am yr Haf sydd bellach wedi ein gadael, mae hi hefyd yn esgus i adnewyddu ein siwmperi a’n cotiau glaw. Weithiau mae hi’n teimlo’n anodd i gadw i fyny gyda’r ‘trends’ tymhorol ond dyma restr fer o’ch ‘staples’ ar gyfer Hydref 2026.

O brintiau trawiadol i liwiau cyfoethog, ffabrigau moethus ac ategolion sy’n denu sylw; nid oes angen gwario ffortiwn i edrych yn dda’r tymor yma. Mae ‘trends’ Hydref 2026 yn ffocysu ar ddarnau ymarferol a mynegiant personol. Dyma’r crynodeb wedi’i deilwra i fyfyrwyr ffasiynol Caerdydd.

Lliwiau Trawiadol:

Os ydych chi am ychwanegu ychydig o ‘wmff’ at eich gwisgoedd pob dydd, beth am wisgo lliw sy’n dal sylw fel coch neu marŵn? Mae hyn yn troi gwisg all deimlo’n ddiflas yn fwy diddorol gan wneud i chi sefyll mas mewn torf. Gall hyn fod mor syml a gwisgo esgidiau coch gyda jîns a chrys-t gwyn. Mae dull o’r enw ‘the sandwich method’ sydd yn dechneg ffasiynol syml, ble rydych chi’n matsio lliw ar frig eich gwisg gyda’r dilledyn ar y gwaelod. Esiampl o hyn fyddai gwisgo siwmper goch gydag esgidiau coch i fatsio.

Printiau Pwerus yn parhau:

Mae llewpard yn batrwm sydd wedi bod yn hynod o boblogaidd yn 2026 ac mae’n ffordd hawdd o ddod a cymeriad i wisg sy’n ymddangos ychydig yn blaen. Y nôd yw dyrchafu gwisgoedd syml ar gyllideb fach. Felly, gallwch ddefnyddio’r patrwm fel eitem sy’n gwneud datgan (‘statement piece’). Byddai bag print llewpard heb os yn ychwanegu elfen o ddrama at wisg syml pob dydd.

Patrwm arall sydd wedi bod yn dominyddu’r byd ffasiwn yw smotiau. Gallwch gerdded mewn i Zara a phrynu gwisg gyfan wedi’i gorchuddio mewn smotiau. Ond, os nad ydych chi eisiau edrych fel ci dalmatian, beth am wisgo un eitem smotiog yn unig? Gall hyn fod yn siaced syml neu gallwch fynd un cam ymhellach a gwisgo jîns.

Siacedi:

Rywbeth a ddylai hoelio’i le yn eich cwpwrdd dillad yw siaced o safon dda. Nid oes angen gwario mwy na £100 i gael siaced sydd yn edrych yn ffasiynol ac yn smart. Un o’r deunyddiau mwyaf poblogaidd y tymor hwn yw lledr swêd. Budd prynu siaced fel hyn yw ei bod yn siŵr o bara am byth gan ei fod yn eitem diamser (‘timeless’).

Gallwch brynu siacedi swêd mewn amryw o liwiau megis du, hufen neu wyrdd olewydd. Mae’r siacedi hyn yn ychwanegu elfen o ‘chicness’ at eich gwisgoedd pob dydd. Dyma ffordd syml o edrych yn ffasiynol heb ymdrechu’n ormodol.

Dyma ychydig o awgrymiadau a allai wneud i chi edrych yn ffasiynol yr Hydref hwn. Ond,y peth pwysicaf i’w gofio yw; gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfforddus. Nid oes angen gwisgo i fyny pob tro, mae siwmper a throwsus llac yn hynod o dderbyniol, yn enwedig ar gyfer darlith ben bore dydd Iau!