Dyma ddaeargryn i dirwedd wleidyddol Cymru. Am y tro cyntaf ers canrif, dydy Llafur heb ennill etholiad yng Nghymru. Mae’n ddigwyddiad sydd yn chwildroad i raddau ac yn cael effaith yr holl ffordd i Stryd Downing.
Wrth i bleidleiswyr Cymru gamu i’r blychau pleidleisio ar Fai 7, roedd cryn dipyn o ansicrwydd gyda’r polau piniwn yn cyfleu ras agos rhwng Plaid Cymru a Reform. Ar ôl i’r blychau gau am 10yh y noson honno, dechreuodd Cymru gyfri yn gynnar fore Gwener, Mai 8 ac erbyn 18.00 roedd gennym ganlyniad mai Plaid Cymru fydd y blaid fwyaf yn y seddi. Dechreuodd y cyfrif yn etholaeth y Prif Weinidog, Eluned Morgan, Ceredigion Penfro, am 11.00 fore Gwener ac erbyn 17.00 roedd yna ganlyniad lle ddaeth i’r amlwg y byddai hi yn colli ei sedd.
Roedd cyfryngau o bob cwr o Brydain yno yn gohebu ar y digwyddiad; GB News, Channel 4 a Sky News. Diswyddodd Eluned Morgan fel Arweinydd y Blaid Lafur yn syth ac wrth siarad â’r cyfryngau, dywedodd ei bod yn cymryd cyfrifoldeb gan bwysleisio nad oedd Syr Keir Starmer ar y papur pleidleisio yn yr etholiad hwn. Erbyn dydd Sadwrn, cyhoeddwyd mai Ken Skates byddai’n arwain y Blaid Lafur yng Nghymru dros dro.
Llwyddodd Plaid Cymru i ennill 43 o seddi ond yn brin o’r trothwy o 49 ar gyfer mwyafrif yn y Senedd. Roedden ni’n gwybod hyn cyn yr etholiad gan fod y system newydd a chafodd ei defnyddio eleni yn cael yr effaith yma sydd yn golygu fod gofyn cydweithio yn rhyngbleidiol er mwyn i’r Llywodraeth leiafrifol allu gweithredu. Gyda’r pleidleisiau wedi eu cyfrif, y cam nesaf yw dewis Prif Weinidog Cymru a’r ymgeisydd tebygol yw arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth gan mai ef sydd yn arwain y blaid fwyaf yn y Senedd.
Ond bydd aelodau yn dewis hyn erbyn Mai 28, 14 niwrnod ar ôl yr etholiad, yng nghyfarfod Plenari cyntaf y Senedd lle fydd Llywydd newydd hefyd yn cael eu hapwyntio. Gwerth yw nodi os na chaiff Prif Weinidog ei ddewis o fewn y terfyn amser o 28 niwrnod, erbyn Mehefin 3, fydd Cymru yn wynebu etholiad arall lle gall pethau fod yn fwy diddorol! Fodd bynnag, anaml iawn mae hynny yn digwydd gyda dim un o’r chwe etholiad Senedd Cymru wedi gorffen fel hyn.
Ar ôl i’r Prif Weinidog gael ei apwyntio, bydd yn ffurfio Llywodraeth gan ddewis Gweinidogion i gymryd gofal dros feysydd megis Iechyd, Addysg, yr Iaith Gymraeg, Llywodraeth Leol a’r Economi. Mae Arweinydd Plaid Cymru wedi cyhoeddi ei fod am redeg Llywodraeth leiafrifol ar ôl cwrdd ag aelodau ei blaid ddydd Sadwrn, Mai 9. Bydd hyn yn golygu gallai fod yn anodd i’r Llywodraeth basio deddfau felly efallai mai anochel fydd ceisio cyfaddawdu.
Un peth yn sicr ydy na fydd Reform â’r Ceidwadwyr yn gallu cael digon o aelodau ynghyd i allu bod yn fwy na Phlaid Cymru i fod y blaid fwyaf yn y Senedd. Elin Jones yw unig aelod Plaid Cymru i weithio fel rhan o Lywodraeth a hynny yn 2007 dan ‘Lywodraeth Cymru’n Un’ fel Gweinidog dros Faterion Gwledig. Mae hi wedi bod yn Aelod o’r Senedd ers dechrau datganoli yn 1999 a hi yw’r Llywydd diweddaraf.

Mae disgwyl y byddai hi felly yn chwarae rôl bwysig mewn Llywodraeth Cymru dan arweiniad Plaid Cymru. Wrth siarad â mi yn dilyn canlyniad Ceredigion Penfro, dywedodd ei bod yn ‘edrych ymlaen’ at weld ‘sut y bydd Rhun yn mynd ati i roi tîm o weinidogion at ei gilydd os geith e’r cyfle i wneud hynny’. Dywedodd y byddai yn barod i helpu Rhun ap Iorwerth fel rhan o Lywodraeth Plaid Cymru gan ddweud nad oes ganddi ‘favourite’.
