Mae Cystadleuaeth Cân Eurovision wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol yn y calendr pop byd-eang ers 1956, a’r flwyddyn yma, cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Lerpwl, Lloegr. Loreen o Sweden enillodd y gystadleuaeth am yr eildro, gyda’i hanthem bop esgyn Tattoo.

Roedd disgwyliadau bod mwy na 100,000 o ymwelwyr wedi dod i Lerpwl ar gyfer Eurovision, sydd wedi cael effaith economaidd enfawr ac wedi helpu’r rhanbarth i wella ar ôl y pandemig.

Wrth i filoedd fynychu’r digwyddiad, cafodd y gystadleuaeth effaith ar Gymru hefyd, gyda busnesau’n dweud bod y bwrlwm yn cael effaith bositif arnynt. Llenwyd bwytai, siopau a nifer o westai yng ngogledd Cymru.

Dywedodd rheolwr un gwesty yn Sir Ddinbych eu bod nhw wedi gweld cynnydd mewn archebion ar ôl hyrwyddo’u hunain fel rhywle i gefnogwyr Eurovision aros.

Roedd nifer yn honni bod y digwyddiad wedi helpu rhoi Cymru ar y map a derbyn sylw haeddiannol. Am y tro cyntaf mae’n rhoi cyfle i ogledd Cymru ddenu ymwelwyr o dramor.

Y gobaith oedd hyrwyddo gogledd Cymru fel cyrchfan i bobl oedd yn bwriadu mynd i Lerpwl - yn ogystal â’i hyrwyddo fel rhan o’r cynnig twristaidd Cymreig.

Fel arfer, Caerdydd sy’n denu ymwelwyr am ei ‘buzz’ fel prifddinas gyda’r gemau rygbi a phêl-droed. Mae’n wych cael digwyddiad mor bwysig ac agos at ogledd Cymru eleni.

I bobl Wcráin, sydd bellach yng Nghymru, mae’r Eurovision yn cynnig cyfnod o obaith. Nid cystadleuaeth yw Eurovision iddynt, ond yn hytrach cyfle i hyrwyddo cyfeillgarwch a dod â phobl ynghŷd.

Ddydd Mercher aeth 1,500 o bobl i ffair swyddi yn y ganolfan gynadledda drws nesaf i’r Arena ble roedd rowndiau terfynol Eurovision. Bydd Cymru’n teimlo effaith enfawr gyda chyfleoedd i recriwtio a denu gweithwyr a chwsmeriaid i’r wlad o ganlyniad i Eurovision.